Cardiff University | Prifysgol Caerdydd ORCA
Online Research @ Cardiff 
WelshClear Cookie - decide language by browser settings

Pileri'r chwedloniaeth : creu ac ail-greu Diwygiad Crefyddol 1904-05 yng Nghymru yn ei ganrif gyntaf

Gruffudd, Anna Lluan 2010. Pileri'r chwedloniaeth : creu ac ail-greu Diwygiad Crefyddol 1904-05 yng Nghymru yn ei ganrif gyntaf. PhD Thesis, Cardiff University.

[thumbnail of U584451.pdf] PDF - Accepted Post-Print Version
Download (8MB)

Abstract

Mae'r traethawd hwn yn astudiaeth o Ddiwygiad Crefyddol 1904-05 yng Nghymru a'r modd y cynrychiolwyd ei weithgarwch ers hynny, gan edrych yn arbennig ar adeg y canmlwyddiant. Edrychir ar y modd y cyfrannodd cyflwr y Diwygiad fel chwedl ar y pryd at sefydlu a chynnal y mudiad. Ystyrir natur strwythurol y gweithgarwch elfen nad yw'n draddodiadol wedi ei phwysleisio gan haneswyr. Archwilir y modd y rhoddwyd stori'r Diwygiad ar waith yn ystod 1904-05 gan edrych ar weithgarwch yn y gymuned a rol y wasg yn hyn o beth. Olrheinir y modd yr adroddwyd y stori honno ar amrywiol ffurfiau yn ystod y ganrif ers hynny. Gwneir hyn gan edrych ar nodweddion penodol o weithgarwch y mudiad. Creffir ar ffurf ei gyfarfodydd, amlygrwydd y ferch, ei ddylanwad ar rai o arferion y gymdeithas ac ar rol Evan Roberts fel prif gymeriad. Mae'r gwaith yn un amlddisgyblaeth, yn yr ystyr bod deunydd yr ymchwil yn cynnwys gweithiau o amrywiol fathau. Wrth ganolbwyntio ar flynyddoedd 1904-05, edrychwyd yn bennaf ar waith y wasg. O safbwynt y ganrif ers hynny, edrychwyd ar gynnyrch llenyddol, gan gynnwys nofelau a barddoniaeth yn ogystal a gwaith newyddiadurol, theatrig a hanesyddol. Ceir cyfeirio at hanesyddiaeth y maes, ymysg gweithiau eraill fel tystiolaeth o ffurf y Diwygiad ers 1904-05. Drwy astudio mytholeg y Diwygiad, yr amcan yw cyfrannu at ddealltwriaeth o'i weithgarwch yn ystod 1904-05 ac o'r cof amdano yng nghyswllt hanes y Gymru fodern ers hynny.

Item Type: Thesis (PhD)
Status: Unpublished
Schools: History, Archaeology and Religion
Subjects: B Philosophy. Psychology. Religion > BL Religion
D History General and Old World > D History (General)
ISBN: 9781303195389
Date of First Compliant Deposit: 30 March 2016
Last Modified: 19 Mar 2016 23:29
URI: https://orca.cardiff.ac.uk/id/eprint/54350

Actions (repository staff only)

Edit Item Edit Item

Downloads

Downloads per month over past year

View more statistics