Cardiff University | Prifysgol Caerdydd ORCA
Online Research @ Cardiff 
WelshClear Cookie - decide language by browser settings

Dylanwad llifoedd isel ar bysgod y Salmo a’u hysglyfaeth, y macroinfertebratau.

Jâms, Ifan Bryn 2017. Dylanwad llifoedd isel ar bysgod y Salmo a’u hysglyfaeth, y macroinfertebratau. PhD Thesis, Prifysgol Caerdydd.
Item availability restricted.

[thumbnail of 2017jamsibphd.pdf]
Preview
PDF - Accepted Post-Print Version
Download (5MB) | Preview
[thumbnail of jamsib.pdf] PDF - Supplemental Material
Restricted to Repository staff only

Download (306kB)

Abstract

O holl bysgod y Ddaear, anodd yw adnabod dwy rywogaeth sydd wedi eu hastudio cystal â’r brithyll brown (Salmo trutta L.) ac eog yr Iwerydd (Salmo salar L.). Cyflawna'r pysgod hyn swyddogaethau ecolegol ac economaidd sylweddol. Mae’n syndod, felly, nad oes dealltwriaeth fanylach o oblygiadau newid hinsawdd byd-eang ar y bysgodfa Salmo. Wrth i’r blaned gynhesu, a’r gylchred hydrolegol newid, disgwylir cynnydd yng ngerwinder ac amledd achosion o lif isel yn nentydd ac afonydd tiriogaeth gynhenid y pysgod hyn. Bwlch pendant ac amlwg yn y sail wybodaeth yw dealltwriaeth o ddylanwad llifoedd isel ar y brithyll a’r eog. Defnyddir dulliau gwreiddiol (astudiaethau mewn dyfroedd llifeiriol naturiol) a chyfleusterau arbrofol arloesol (mesocosmau rhaeadrol ucheldirol) i brofi dilysrwydd y ddamcaniaeth gyffredinol fod lleihad llif yn dylanwadu’n negyddol ar boblogaethau Salmo spp. ifanc, a’u hysglyfaeth, y macroinfertebratau. Ceir awgrym nad yw’r pysgod yn ceisio ffoi dylanwad llif isel cymedrol drwy symud i ddyfroedd dyfnach. Gwelwyd lleihad yn niferoedd pysgod o dan gyflyrau llif isel; roedd hyn yn gysylltiedig â chynhaliaeth maethol dlotach. Yn wahanol i leihad llif cymedrol, cyflwyna sychder eithafol gasgliad o heriau amgen i fiota dyfrol, gan gynnwys tymheredd uwch a chrynodiad ocsigen is; cyflyrau sy’n angheuol i bysgod y Salmonidae (Cuvier). Yn yr astudiaeth hon canfyddir fod sychder eithafol hefyd yn achosi crebachiad i gynhaliaeth maethol pysgodfa. O’r pysgod â lwydda i oroesi sychder, cofnodwyd cyfraddau twf is mewn arbrawf rhagarweiniol. Fel neges gyffredinol, arwain llifoedd is mewn nentydd ac afonydd at reolaeth lymach o boblogaethau Salmo ifanc, yn enwedig o safbwynt eu cynhaliaeth maethol. Ymresymir y bydd lleihad yn nifer yr aelodau a ffitrwydd y garfan hon o bysgod yn debygol o fod â goblygiadau pellach ar gyfer recriwtiad pysgod hŷn.

Item Type: Thesis (PhD)
Date Type: Submission
Status: Unpublished
Schools: Biosciences
Language other than English: Welsh
Funders: Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Date of First Compliant Deposit: 26 April 2018
Last Modified: 19 Apr 2021 09:23
URI: https://orca.cardiff.ac.uk/id/eprint/111033

Actions (repository staff only)

Edit Item Edit Item

Downloads

Downloads per month over past year

View more statistics