Cardiff University | Prifysgol Caerdydd ORCA
Online Research @ Cardiff 
WelshClear Cookie - decide language by browser settings

Iaith y Ddrama / Drama'r Iaith: PhD Beirniadol a Chreadigol

Morris, Ceri 2018. Iaith y Ddrama / Drama'r Iaith: PhD Beirniadol a Chreadigol. PhD Thesis, Cardiff University.
Item availability restricted.

[thumbnail of PhD ORCA Olaf Un.pdf]
Preview
PDF - Accepted Post-Print Version
Download (2MB) | Preview
[thumbnail of scan0001.jpg] Image (JPEG) - Supplemental Material
Restricted to Repository staff only

Download (1MB)
[thumbnail of scan0002.jpg] Image (JPEG) - Supplemental Material
Restricted to Repository staff only

Download (755kB)

Abstract

Yn sail i’r astudiaeth hon y mae’r dyfyniad canlynol: ‘The problems of language in drama were crystallised – as problems – in the early dramatic criticism of Eliot’ (Kennedy, 1975, t.5). Y cwestiwn ymchwil yw: ‘I ba raddau y bu heriau ieithyddol yn ffenomenon wrth ysgrifennu drama ar gyfer y theatr a’r teledu Cymraeg?’ Eir ati i geisio ateb y cwestiwn ymchwil drwy gyfrwng astudiaeth feirniadol, ac ymatebir i’r canlyniadau drwy waith creadigol. Yn y rhan feirniadol (pennod 1 i 6), archwilir yn gyntaf i ba raddau y bu i ddramodwyr rhyngwladol wynebu heriau ieithyddol wrth ysgrifennu ar gyfer y theatr a’r teledu. Yna, edrychir ar y datblygiadau cynnar yn y theatr Gymraeg o 1880 hyd y 1950au, ac yna’r teledu Cymraeg o 1955 hyd at 1962. Dadansoddir wedyn i ba raddau y bu heriau ieithyddol yn ffenomenon i bum dramodydd unigol o gyfnodau gwahanol, sef Saunders Lewis, John Gwilym Jones, Gwenlyn Parry, Aled Jones Williams a Daf James. Ar ddiwedd yr astudiaeth feirniadol, ffocysir ar un mater neilltuol, sef y berthynas rhwng yr iaith Gymraeg a’r ddrama deledu realaidd. Er na ellir honni bod pob dramodydd Cymraeg wedi wynebu heriau ieithyddol, daw’n amlwg bod iaith fel her yn ystyriaeth gyson yng ngwaith y pum dramodydd dan sylw. Ymatebodd y dramodwyr i’r heriau ac esgorodd hyn ar gryn arbrofi, ac ar greadigrwydd aruthrol. Ym mhennod 7, ceir pontio rhwng yr adran feirniadol a’r creadigol; trafodaf yr heriau a wynebais i a hynny yng nghyd-destun y drafodaeth feirniadol. Mae penodau 8, 9 a 10 yn cynnwys y gwaith creadigol. Ceir dwy ddrama lwyfan wedi’u hysbrydoli gan gymeriadau Blodeuwedd a Branwen. Yma, archwilir heriau amryw-iaith, heriau hunan-iaith, a heriau cyfathrebu rhwng y cymeriadau. Cyfres deledu mewn tair rhan yw Pluen sydd yn defnyddio realaeth hudol a ffantasi i archwilio iaith y teledu; yma archwilir heriau cyfathrebu drwy iaith, y berthynas rhwng realaeth a’r iaith Gymraeg, ac arbrofi ieithyddol ar y teledu.

Item Type: Thesis (PhD)
Date Type: Acceptance
Status: Unpublished
Schools: Welsh
Language other than English: Welsh
Funders: Arts and Humanities Research Council
Date of First Compliant Deposit: 23 January 2019
Date of Acceptance: 20 September 2018
Last Modified: 23 Jan 2019 15:41
URI: https://orca.cardiff.ac.uk/id/eprint/118601

Actions (repository staff only)

Edit Item Edit Item

Downloads

Downloads per month over past year

View more statistics