Cardiff University | Prifysgol Caerdydd ORCA
Online Research @ Cardiff 
WelshClear Cookie - decide language by browser settings

Dysgu Cymraeg i Fewnfudwyr: Llunio Llwybr at Ddinasyddiaeth Gynhwysol Gymreig

Higham, Gwennan Elin 2016. Dysgu Cymraeg i Fewnfudwyr: Llunio Llwybr at Ddinasyddiaeth Gynhwysol Gymreig. PhD Thesis, Cardiff University.
Item availability restricted.

[thumbnail of PhD.pdf]
Preview
PDF - Accepted Post-Print Version
Download (2MB) | Preview
[thumbnail of Gwennan_Higham_Dissertation_Form.pdf] PDF - Supplemental Material
Restricted to Repository staff only

Download (88kB)

Abstract

Mewnfudo, dinasyddiaeth a dysgu iaith: mae’r ddoethuriaeth yn dod â’r tair thema hon ynghyd—themâu sydd yn esgor ar ddadleuon parhaus yn sgil tueddiadau mewnfudo cynyddol mewn cenedl-wladwriaethau democrataidd. Mae’r prosiect ymchwil amlddisgyblaethol yn gyntaf yn cymhwyso damcaniaethau cyfoes ar integreiddio, megis amlddiwylliannedd a rhyngddiwylliannedd, i achos Cymru ac yn benodol ei sefyllfa ddwyieithog neilltuol. Yn hyn o beth, mae’r ddoethuriaeth yn cymharu ac yn gwrthgyferbynnu modelau o gymhwyso amrywiaeth a dinasyddiaeth er mwyn sefydlu model ffafriol ar gyfer cyd-destun y Gymraeg. Defnyddir Québec fel astudiaeth arbrofol ar gyfer yr ymchwil, drwy ddarparu modelau methodolegol ond hefyd drwy astudio ymarfer da mewn integreiddio mewnfudwyr drwy’r rhaglen francisation. Yn ail, yn sgil gwaith ethnograffig yn Québec ac yna yng Nghymru, mae’r ymchwil yn mynd i’r afael â’r berthynas rhwng dysgu Cymraeg a datblygu cysyniad o ‘ddinasyddiaeth’ a chydlyniant cymunedol ar y lefel leol, sydd yn wahanol i’w ddiffiniad swyddogol gan Lywodraeth y DG. Yn drydydd, ar sail cyfweliadau â swyddogion Llywodraethol, tiwtoriaid iaith a mewnfudwyr grwpiau ffocws ac arsylwadau cyfranogol mewn dosbarthiadau iaith, mae’r ddoethuriaeth yn gwneud casgliadau ynghylch y cyfleoedd a’r rhwystrau i ddatblygu prosiect dinasyddiaeth sydd yn cynnwys ac yn hyrwyddo dysgu Cymraeg i fewnfudwyr, ac o ganlyniad i holl ddinasyddion Cymru.

Item Type: Thesis (PhD)
Date Type: Publication
Status: Unpublished
Schools: Welsh
Uncontrolled Keywords: migration, migrants, citizenship, Welsh, language learning, integration, cohesion, mewnfudo, dinasyddiaeth, dysgu Cymraeg, mewnfudwyr, addysg iaith, cydlyniant, integreiddio
Language other than English: Welsh
Funders: Arts and Humanities Research Council
Date of First Compliant Deposit: 13 December 2016
Last Modified: 19 Oct 2021 01:19
URI: https://orca.cardiff.ac.uk/id/eprint/96723

Actions (repository staff only)

Edit Item Edit Item

Downloads

Downloads per month over past year

View more statistics