Cardiff University | Prifysgol Caerdydd ORCA
Online Research @ Cardiff 
WelshClear Cookie - decide language by browser settings

‘Jysd enjoia'r geiria fel tasa nhw’n dda-da yn dy geg di’: Cyfnewid cod mewn llenyddiaeth o Gymru a Chanada

Orwig, Sara 2018. ‘Jysd enjoia'r geiria fel tasa nhw’n dda-da yn dy geg di’: Cyfnewid cod mewn llenyddiaeth o Gymru a Chanada. PhD Thesis, Prifysgol Caerdydd.
Item availability restricted.

[thumbnail of Orwig Sara - Traethawd PhD - Drafft Terfynol.pdf]
Preview
PDF - Accepted Post-Print Version
Download (8MB) | Preview
[thumbnail of orwigs.pdf] PDF - Supplemental Material
Restricted to Repository staff only

Download (532kB)

Abstract

Term i ddisgrifio’r ffenomen o gyfuno dwy iaith mewn un datganiad yw ‘cyfnewid cod’. Mae defnyddio geiriau ac ymadroddion Saesneg yn nodwedd gyffredin o Gymraeg llafar, anffurfiol nifer o siaradwyr. Nid yw’r ffenomen hon yn unigryw i’r Gymraeg; yn rhyngwladol, ceir cymdeithasau sy’n defnyddio cyfnewid cod, gan gynnwys Canada ffrancoffon. Yn ogystal â bod yn nodwedd o iaith lafar, mae’n nodwedd hefyd mewn rhai testunau llenyddol. Bwriad y traethawd hwn yw astudio rhai o’r testunau hyn, gan archwilio patrymau o gyfnewid cod a’u cymharu â damcaniaethau ysgolheigion eraill. Datblygwyd methodoleg wreiddiol i ddadansoddi’r testunau’n ieithyddol gan dynnu ar fethodoleg ysgolheigion megis Callahan (2004) a Montes-Alcalá (2013b; 2015). Yn ogystal â thrafodaeth ieithyddol, dadansoddir y testunau yng ngoleuni damcaniaethau ôl-drefedigaethedd ac ôl-foderniaeth, gan bontio maes ieithyddiaeth a theori lenyddol er mwyn archwilio pa fath o destunau sy’n defnyddio cyfnewid cod ac i ba bwrpas. Rhennir y traethawd yn bedair prif adran. Mae’r bennod gyntaf yn cynnig arolwg o’r maes ac yn trafod gwaith ysgolheigion sy’n astudio cyfnewid cod, yn ogystal â darparu cyd-destun hanesyddol a chymdeithasol ar gyfer Cymru a Chanada. Mae’r ail bennod yn trafod methodoleg yr ymchwil presennol, yn arbennig y fethodoleg a ddefnyddir i ddadansoddi’r testunau. Yna, symudir i drafod canlyniadau’r gwaith codio (penodau 3-8), cyn trafod y corpws yn ei gyfanrwydd (pennod 9). Yn y bennod olaf, ehangir y drafodaeth gan ddadansoddi’r testunau fel llenyddiaeth yn hytrach na’u trin fel corpws ieithyddol. Bwriad y traethawd hwn yw deall elfennau o Gymru a Chanada’n well – eu hieithoedd, eu llenyddiaeth a’u cymdeithasau – drwy drafod y defnydd o gyfnewid cod mewn sampl o’u llenyddiaeth greadigol. Defnyddir methodoleg wreiddiol, sy’n defnyddio elfennau rhyngddisgyblaethol blaengar, gan gyfrannu at faes cyfnewid cod llenyddol a datblygu ar y modelau sy’n bodoli eisoes. Gobeithir y bydd yr astudiaeth yn cyfrannu at y drafodaeth ryngwladol wrth gymharu cyfnewid cod mewn llenyddiaeth o ddwy gymdeithas a chanddynt ieithoedd lleiafrifol.

Item Type: Thesis (PhD)
Status: Unpublished
Schools: Welsh
Subjects: P Language and Literature > P Philology. Linguistics
P Language and Literature > PB Modern European Languages
P Language and Literature > PB Modern European Languages > PB1001 Celtic languages and literature
P Language and Literature > PN Literature (General)
Uncontrolled Keywords: cyfnewid cod; llenyddiaeth; dwyieithrwydd; amlieithrwydd; ôl-drefedigaethedd; ôl-foderniaeth; code switching
Language other than English: Welsh
Funders: Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Date of First Compliant Deposit: 9 January 2019
Last Modified: 06 Oct 2021 01:08
URI: https://orca.cardiff.ac.uk/id/eprint/118228

Actions (repository staff only)

Edit Item Edit Item

Downloads

Downloads per month over past year

View more statistics