Gruffudd, Anna Lluan
2010.
Pileri'r chwedloniaeth : creu ac ail-greu Diwygiad Crefyddol 1904-05 yng Nghymru yn ei ganrif gyntaf.
PhD Thesis,
Cardiff University.
|
Preview |
PDF
- Accepted Post-Print Version
Download (8MB) | Preview |
Abstract
Mae'r traethawd hwn yn astudiaeth o Ddiwygiad Crefyddol 1904-05 yng Nghymru a'r modd y cynrychiolwyd ei weithgarwch ers hynny, gan edrych yn arbennig ar adeg y canmlwyddiant. Edrychir ar y modd y cyfrannodd cyflwr y Diwygiad fel chwedl ar y pryd at sefydlu a chynnal y mudiad. Ystyrir natur strwythurol y gweithgarwch elfen nad yw'n draddodiadol wedi ei phwysleisio gan haneswyr. Archwilir y modd y rhoddwyd stori'r Diwygiad ar waith yn ystod 1904-05 gan edrych ar weithgarwch yn y gymuned a rol y wasg yn hyn o beth. Olrheinir y modd yr adroddwyd y stori honno ar amrywiol ffurfiau yn ystod y ganrif ers hynny. Gwneir hyn gan edrych ar nodweddion penodol o weithgarwch y mudiad. Creffir ar ffurf ei gyfarfodydd, amlygrwydd y ferch, ei ddylanwad ar rai o arferion y gymdeithas ac ar rol Evan Roberts fel prif gymeriad. Mae'r gwaith yn un amlddisgyblaeth, yn yr ystyr bod deunydd yr ymchwil yn cynnwys gweithiau o amrywiol fathau. Wrth ganolbwyntio ar flynyddoedd 1904-05, edrychwyd yn bennaf ar waith y wasg. O safbwynt y ganrif ers hynny, edrychwyd ar gynnyrch llenyddol, gan gynnwys nofelau a barddoniaeth yn ogystal a gwaith newyddiadurol, theatrig a hanesyddol. Ceir cyfeirio at hanesyddiaeth y maes, ymysg gweithiau eraill fel tystiolaeth o ffurf y Diwygiad ers 1904-05. Drwy astudio mytholeg y Diwygiad, yr amcan yw cyfrannu at ddealltwriaeth o'i weithgarwch yn ystod 1904-05 ac o'r cof amdano yng nghyswllt hanes y Gymru fodern ers hynny.
| Item Type: | Thesis (PhD) |
|---|---|
| Status: | Unpublished |
| Schools: | Schools > History, Archaeology and Religion |
| Subjects: | B Philosophy. Psychology. Religion > BL Religion D History General and Old World > D History (General) |
| ISBN: | 9781303195389 |
| Date of First Compliant Deposit: | 30 March 2016 |
| Last Modified: | 22 Sep 2025 15:17 |
| URI: | https://orca.cardiff.ac.uk/id/eprint/54350 |
Actions (repository staff only)
![]() |
Edit Item |




Download Statistics
Download Statistics