Cardiff University | Prifysgol Caerdydd ORCA
Online Research @ Cardiff 
WelshClear Cookie - decide language by browser settings

Astudiaeth o amrywio ieithyddol yng nghyd-destun adfywio ieithyddol yng Nghymraeg Caerdydd

Gruffydd, Ianto 2022. Astudiaeth o amrywio ieithyddol yng nghyd-destun adfywio ieithyddol yng Nghymraeg Caerdydd. PhD Thesis, Cardiff University.
Item availability restricted.

[thumbnail of PhD Thesis]
Preview
PDF (PhD Thesis) - Accepted Post-Print Version
Download (3MB) | Preview
[thumbnail of Cardiff University Electronic Publications Form] PDF (Cardiff University Electronic Publications Form) - Supplemental Material
Restricted to Repository staff only

Download (903kB)

Abstract

Mae’r traethawd hwn yn dadansoddi amrywio ieithyddol ymysg siaradwyr Cymraeg dwyieithog mewn ysgol uwchradd Gymraeg yng Nghaerdydd. Lleolir yr ymchwil yng nghyd-destun adfywio ieithyddol yng Nghaerdydd lle nad oes tafodiaith draddodiadol yn bodoli bellach wedi dirywiad y Wenhwyseg. Mae cyffyrddiad tafodieithol gydag amrywiadau tafodieithol traddodiadol oherwydd adfywio ieithyddol ac ymfudo siaradwyr yn ogystal â chyffyrddiad ieithyddol gyda’r Saesneg felly ar waith yma. Mae’r ymchwil hwn yn cyfrannu at gorff o ymchwil blaenorol ar y Gymraeg trwy ddefnyddio dulliau ethnograffegol y drydedd don er mwyn archwilio effaith strwythurau cymdeithasol ar Gymraeg Caerdydd. Nod cyntaf yr astudiaeth hon yw dadansoddi effaith ystod o ffactorau ieithyddol a chymdeithasol ar iaith disgyblion Ysgol Uwchradd Gymraeg Caerdydd. Mae canfod effaith ystod o ffactorau cymdeithasol yn gyffredin mewn ymchwil sosioieithyddol ac mae ymchwil blaenorol wedi canfod bod ffactorau megis iaith yr aelwyd a rhywedd yn gallu effeithio ar amrywio yn y Gymraeg (Morris 2013, 2017, 2021). Mae astudiaethau eraill wedi canfod nad oes gwahaniaethau rhwng disgyblion o wahanol gefndiroedd ieithyddol neu strwythurau cymdeithasol (Mayr et al. 2017, Mennen et al. 2020). Oherwydd hynny, ail nod yr astudiaeth hon yw archwilio effaith rhwydweithiau cymdeithasol ar amrywio ieithyddol y disgyblion trwy ddefnyddio’r cysyniad o gymunedau a chlystyrau arfer (Lave a Wenger 1991; Wenger 1998). Mae cymunedau a chlystyrau arfer yn nodweddiadol mewn ymchwil ethnograffegol sy’n nodweddiadol o waith sosioieithyddol trydedd don (Eckert 2012). Bodola Cymraeg Caerdydd yng nghyd-destun adfywio ieithyddol, felly bydd yr ymchwil hwn yn cyfrannu at gorff o waith ar amrywio ieithyddol mewn cyd-destun adfywio ieithyddol yn ogystal (e.e. Nance 2013; Kasstan 2017; Mooney 2019). O ystyried hynny, nod olaf yr astudiaeth hon yw canfod effeithiau posibl cyd-destun o adfywio ieithyddol yn berthnasol i gyffyrddiad ieithyddol a chyffyrddiad tafodieithol. Mae cyffyrddiad ieithyddol yng nghyd-destun adfywio ieithyddol yn aml yn arwain at drosglwyddo o’r iaith fwyafrifol i’r iaith leiafrifol (Jones 1998; King et al. 2009; Nance 2013). Yn berthnasol i gyd-destun Caerdydd, bydd cyffyrddiad tafodieithol ag amrywiadau’r tafodieithoedd traddodiadol yn ogystal â safoni posibl (Thomas 1991, Jones 1998) o ddiddordeb i’r ymchwil hwn yn ogystal. Cafodd y data ei gasglu trwy gyfweliadau sosioieithyddol a thasg rhestr geiriau gan 24 o ddisgyblion uwchradd Cymraeg 14–15 oed. Fe gasglwyd gwybodaeth ddemograffegol ar y disgyblion cyn rhannu’r sampl yn gyfartal ar sail iaith aelwyd a rhywedd. Cafodd y disgyblion eu harsylwi trwy ddulliau ethnograffegol yn ogystal. Dengys yr ymchwil fod llafariaid caeedig cefn Cymraeg Caerdydd yn blaenu. Gellid dweud bod /u(:)/ yn blaenu i safle eithaf blaen, a /ʊ/ i safle ganol, fel y gwelir mewn amrywiadau o dde Lloegr (Ferragne a Pellegrino 2010, t. 28). O safbwynt uchder y llafariaid, trwy gymharu â data blaenorol (Ferragne a Pellegrino 2010, t. 28; Mayr a Davies 2011; Mayr et al. 2017) gellid dweud bod ansawdd mwy agored gan lafariaid caeedig cefn disgyblion Ysgol Uwchradd Gymraeg Caerdydd, na mewn amrywiadau Saesneg yng Nghymru ac amrywiadau Cymraeg mwy traddodiadol. Cafwyd amrywio ar sail arddull trwy’r dadansoddiad tasg, a ddengys ansoddau amrywiol mewn cyd-destunau a oedd yn amrywio mewn ffurfioldeb. Nid oedd iaith yr aelwyd yn effeithio ar amrywio yn y dadansoddiadau effeithiau cymysg, sy’n cyd-fynd ag ymchwil diweddar ar y Gymraeg lle nad yw’r Gymraeg yn iaith gymunedol gref (Mayr et al. 2017). O safbwynt yr ail nodwedd, gwelir mai’r /ai/ safonol yw’r amrywiolyn mwyaf cyffredin gan ddisgyblion Ysgol Uwchradd Gymraeg Caerdydd. Mae’r canlyniad hwn yn cyd-fynd â chanlyniadau Jones (1998) yn Rhosllannerchrugog a Rhymni lle’r oedd defnydd o’r amrywiolyn safonol ar gynnydd ymysg pobl ifanc yno hefyd. Gwelir yn nadansoddiad y ffactor arwyddocaol tasg fod cyfradd uwch o’r amrywiolyn tafodieithol traddodiadol /ɛ/ mewn sgwrs ddigymell na’r amrywiolyn safonol /ai/. Felly ceir amrywio ffonolegol ar sail arddull yn iaith disgyblion YUGC, a olyga fod disgyblion YUGC yn berchen ar wahanol arddulliau a chyweiriau yn y Gymraeg. Nid oedd clwstwr arfer na rhywedd yn effeithio ar y naill nodwedd dan sylw yn yr ymchwil hwn. Golyga hyn nad oedd y ddwy ffactor a welir mewn ymchwil blaenorol sy’n ymwneud â rhwydweithiau cymdeithasol yn ffactorau arwyddocaol yn yr ymchwil hwn. Roedd effaith iaith yr aelwyd yn amrywio. Roedd yn arwyddocaol ar gyfer newidyn (ai) yn y sillaf olaf ddiacen, ond nid oedd yn arwyddocaol ar gyfer y llafariaid caeedig cefn. Yn olaf, gwelir gwahanol oblygiadau ar gyfer damcaniaeth ffurfiant tafodiaith newydd yng nghyd-destun adfywio ieithyddol yn yr ymchwil hwn. Nid ymddengys bod amrywiad Cymraeg Caerdydd yn ffocysu ac mae’n debygol bod hynny oherwydd y cyd-destun o adfywio ieithyddol.

Item Type: Thesis (PhD)
Date Type: Completion
Status: Unpublished
Schools: Welsh
Funders: Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Date of First Compliant Deposit: 1 June 2022
Last Modified: 06 Jun 2022 11:37
URI: https://orca.cardiff.ac.uk/id/eprint/150172

Actions (repository staff only)

Edit Item Edit Item

Downloads

Downloads per month over past year

View more statistics