Cardiff University | Prifysgol Caerdydd ORCA
Online Research @ Cardiff 
WelshClear Cookie - decide language by browser settings

Ailddarganfod ac ail-greu cof diwylliannol yng Nghymru’r cyfnod modern cynnar

Alter, Dewi 2022. Ailddarganfod ac ail-greu cof diwylliannol yng Nghymru’r cyfnod modern cynnar. PhD Thesis, Cardiff University.
Item availability restricted.

[thumbnail of Dewi Alter 2022.pdf]
Preview
PDF - Accepted Post-Print Version
Download (2MB) | Preview
[thumbnail of Cardiff University Electronic Publication Form] PDF (Cardiff University Electronic Publication Form) - Supplemental Material
Restricted to Repository staff only

Download (121kB)

Abstract

Amcan y thesis hwn yw archwilio sut yr ailddarganfuwyd ac ail-grewyd cof diwylliannol cenedlaethol yng Nghymru yn ystod y cyfnod modern cynnar. Nid yw’n astudiaeth holl gynhwysfawr; yn hytrach, archwilir sut yr oedd rhai o awduron hanes mwyaf dylanwadol a phoblogaidd y cyfnod yn synied am orffennol y Cymry a’r Cymry eu hunain. Defnyddir dau gysyniad dylanwadol o astudiaethau’r cof, sef yn gyntaf mnemohanes sy’n archwilio sut y caiff y gorffennol ei gofio, ac yn ail cof diwylliannol sy’n deall y cof fel ffenomen ddiwylliannol sy’n cael ei chyfryngu i gynnig hunaniaeth ffurfiannol a normadol. Gwneir hyn mewn pedair pennod. Yn y bennod gyntaf gosodir seiliau theoretig y traethawd, amlinellir yr hyn yw cof diwylliannol a dadlau mai un o gyfryngau cof diwylliannol yw hanes. Yn yr astudiaeth hon haerir bod gan destunau cof diwylliannol gynulleidfa dybiedig a bod y gynulleidfa honno yn dylanwadu ar y testunau wrth iddynt gael eu creu. Er mwyn astudio cof diwylliannol yn nhestunau hanes Cymry’r cyfnod modern cynnar asesir rhai o destunau mwyaf dylanwadol a phoblogaidd y cyfnod, rhai a ysgrifennwyd yn y Gymraeg, yn y Saesneg a’r Lladin. Yn y bennod ganlynol archwilir cof diwylliannol y Cymry yn ôl rhai o ddyneiddwyr Protestannaidd mwyaf dylanwadol yr unfed ganrif ar bymtheg, gwelir eu bod yn defnyddio’r gorffennol i ddiffinio’r Cymry mewn cyd-destun Protestannaidd ar ôl y Deddfau Uno. Ymhlyg yn y testunau hyn mae balchder yng ngorffennol Cymru a hunaniaeth Gymreig a dangosir eu bod yn diffinio’r Cymry fel cenedl anrhydeddus, Ewrofediteranaidd a Christnogol. Yma archwilir rhai o brif destunau’r cyfnod a fu’n ddylanwad mawr ar y testunau a astudir yn y penodau canlynol. Yn y drydedd bennod astudir Y Ffydd Ddi-ffuant gan Charles Edwards fel testun sy’n ceisio diffinio’r Cymry fel cenedl Ewrofediteranaidd ac yn eu hannog i fod yn genedl Gristnogol. Yn y bennod olaf, caiff Drych y Prif Oesoedd gan Theophilus Evans ei astudio a dadleuir ei fod yntau’n dyrchafu’r Cymry fel cenedl hynafol, Ewrofediteranaidd ac yn eu hannog i fod yn deyrngar i'r Eglwys. Mae’r thesis yn cynnig cipolwg ar hunaniaethau Cymreig yn y cyfnod a sut y defnyddiwyd y gorffennol i ddiffinio’r genedl. Gwelwn sut y gwreiddiwyd y Cymry yng ngorffennol Prydain, y byd Ewrofediteranaidd a hanes Cristnogaeth. Dangosir, felly, nad ynys oedd Cymru, ac nid oedd y Cymry ychwaith yn bobl ynysig.

Item Type: Thesis (PhD)
Date Type: Acceptance
Status: Unpublished
Schools: Welsh
Subjects: P Language and Literature > PB Modern European Languages > PB1001 Celtic languages and literature
Language other than English: Welsh
Funders: Arts and Humanities Research Council SWW DTP
Date of First Compliant Deposit: 5 August 2022
Date of Acceptance: August 2022
Last Modified: 14 Dec 2022 03:15
URI: https://orca.cardiff.ac.uk/id/eprint/151711

Actions (repository staff only)

Edit Item Edit Item

Downloads

Downloads per month over past year

View more statistics