Thomas, Rebecca
2023.
Kaerarthur, Cathedra Arthuri: Enwau Hanesyddol Pen y Fan.
Studia Celtica
57
(1)
, pp. 1-14.
10.16922/SC.57.1
Item availability restricted. |
PDF
- Accepted Post-Print Version
Restricted to Repository staff only until 1 June 2025 due to copyright restrictions. Download (286kB) |
Abstract
Mae’r erthygl hon yn olrhain datblygiad rhai o’r enwau a roddwyd ar Ben y Fan yn yr Oesoedd Canol a’r cyfnod modern cynnar. Yn ei Itinerarium Kambriæ, cyfeiria Gerallt Gymro at fynydd uchaf Bannau Brycheiniog fel Kaerarthur, gan gynnig hefyd y disgrifiad Lladin cathedra Arthuri. Roedd y cysylltiad hwn rhwng Pen y Fan a’r Brenin Arthur yn un dylanwadol, ac yn y cyfnod modern cynnar gwelir ysgolheigion megis John Leland a Syr Siôn Prys yn pwyso ar dystiolaeth Gerallt i gefnogi eu dadleuon ynghylch hanes cynnar y Brythoniaid a bodolaeth Arthur. Fodd bynnag, parodd geiriau Gerallt – yn benodol, y gyfatebiaeth rhwng caer a cathedra – gryn ddryswch hefyd, ac yn y pen draw mabwysiadwyd Cadair Arthur yn y testun yn lle’r Kaerarthur gwreiddiol. Mae’r erthygl hon yn ystyried tystiolaeth yr Itinerarium Kambriæ a strategaethau Gerallt wrth egluro enwau, ac yna’n dadansoddi’r datblygiad o gaeri gadair yn y cyfnod modern cynnar.
Item Type: | Article |
---|---|
Date Type: | Publication |
Status: | Published |
Schools: | History, Archaeology and Religion |
Publisher: | University of Wales Press |
ISSN: | 0081-6353 |
Date of First Compliant Deposit: | 20 June 2023 |
Date of Acceptance: | 8 April 2023 |
Last Modified: | 19 Feb 2024 19:50 |
URI: | https://orca.cardiff.ac.uk/id/eprint/160450 |
Actions (repository staff only)
Edit Item |