Cardiff University | Prifysgol Caerdydd ORCA
Online Research @ Cardiff 
WelshClear Cookie - decide language by browser settings

Darganfod Meddyginiaethau Newydd i Drin Epilepsi Niwroddirywiol Mewn Plant

Honeybun, Llinos 2025. Darganfod Meddyginiaethau Newydd i Drin Epilepsi Niwroddirywiol Mewn Plant. PhD Thesis, Cardiff University.
Item availability restricted.

[thumbnail of Cardiff University Electronic Publication Form] PDF (Cardiff University Electronic Publication Form) - Supplemental Material
Restricted to Repository staff only

Download (1MB)
[thumbnail of PhD thesis] PDF (PhD thesis) - Accepted Post-Print Version
Restricted to Repository staff only until 16 April 2027 due to copyright restrictions.

Download (24MB)

Abstract

Y ffurf fwyaf cyffredin o niwroddirywiad e0feddol mewn plant ydi’r clefydau ymgasglu lysosomaidd yn effeithio tua 1300 o blant yn y Deyrnas Unedig. Dyma grwp o glefydau sydd yn cynnwys y clefydau ceroid lipoffwsginosis niwrownaidd (CLN). Un math ydi CLN3, gyda chyfradd achosion byd-eang o rhwng 1 i 8 ym mhob 100,000 o enedigaethau byw. Fel arfer, mae’r symptomau cyntaf yn ymddangos rhwng 4 ac 8 oed, ac yn cychwyn gyda dallineb cyn ymgynyddu i drawiadau epilep0g. Yn y pen draw, mae’r cleifion yn dirywio’n feddyliol ac yn echddygol ac yn marw erbyn eu trydydd degawd. Mae strwythur a swyddogaeth y protein CLN3 yn parhau i fod yn anhysbys heblaw am y ffaith eu bod yn bodoli ar bilen y lysosom. Dyma ffactor sydd yn creu trafferthion wrth geisio ymchwilio i fecanweithiau clefydol neu feddyginiaethau newydd. Ar hyn o bryd, dim ond therapïau sy’n lliniaru’r symptomau sy’n bodoli ond mae ymdrechion yn y maes i ddatblygu therapïau genynol neu feddyginiaethau moleciwl bach sydd yn adnewid cyflwr y clefyd. Nodau’r ddoethuriaeth oedd nodweddu cellooedd CLN3 trwy ficrosgopeg fflwroleuol gyda’r bwriad o wella ein dealltwriaeth o fecanweithiau mewngellol y clefyd. Yn benodol, roedd y gwaith yn anelu at adnabod priodweddau a allai gael eu defnyddio i gyflawni sgrin cyffuriau ffenoteipaidd trwybwn uchel. Rydym yn adrodd newidiadau i’r system endolysosomaidd mewn dau fodel cellol CLN3, ac fe adroddwyd newidiadau sylweddol i storfeydd mewngellol sawl braster megis gangliosidau a cholesterol. Trwy adnabod chwyddhad lysosomaidd yng nghlefyd CLN3, fe ddatblygwyd sgrin gyffuriau trwybwn uchel, a phrofwyd dros bedwar mil o gyfansoddion. O’r rhain, adnabuwyd pedwar-ar-hugain o gyffuriau oedd yn dangos priodweddau addawol ar gyfer profion pellach. Yn olaf, datblygwyd piblinell awtomataidd ar gyfer dadansoddi delweddau fflwroleuol, sydd yn lleihau amser dadansoddi’n sylweddol heb aberthu ansawdd canlyniadau wrth gymharu â dulliau traddodiadol.

Item Type: Thesis (PhD)
Date Type: Completion
Status: Unpublished
Schools: Schools > Biosciences
Subjects: Q Science > Q Science (General)
Language other than English: Welsh
Date of First Compliant Deposit: 16 April 2026
Last Modified: 17 Apr 2026 10:24
URI: https://orca.cardiff.ac.uk/id/eprint/186439

Actions (repository staff only)

Edit Item Edit Item

Downloads

Downloads per month over past year

View more statistics