Rosser, Siwan M. ORCID: https://orcid.org/0000-0001-7755-3306 2020. Darllen y Dychymyg Creu ystyron newydd i blant a phlentyndod yn Llenyddiaeth y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg. Y Meddwl a’r Dychymyg Cymreig, Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru [University of Wales Press]. |
Abstract
Erbyn hyn, mae llyfrau i blant yn ganolog i’r diwydiant cyhoeddi ac yn rhan annatod o addysg pob plentyn. Ond prin yw’r sylw beirniadol a gafodd hanes a datblygiad llenyddiaeth plant yn y Gymraeg. Mae’r gyfrol hon yn mynd i’r afael â’r tawelwch hwn yn ein hanes cenedlaethol, gan ddadlau bod i lenyddiaeth plant arwyddocâd cymdeithasol a diwylliannol sylweddol. Rhoddir sylw i lyfrau a chylchgronau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg yn benodol, gan archwilio’r ffactorau a oedd yn cyflyru awduron i ysgrifennu ar gyfer plant a phobl ifainc. Drwy ddehongli sut y dychmygid plant yn y gorffennol, mae’r gyfrol hon yn ein galluogi i ddeall nad sefydlog nac unffurf yw ystyr y termau ‘plant’ a ‘phlentyndod’ mewn unrhyw oes.
Item Type: | Book |
---|---|
Book Type: | Authored Book |
Date Type: | Publication |
Status: | Published |
Schools: | Welsh |
Subjects: | P Language and Literature > PB Modern European Languages > PB1001 Celtic languages and literature P Language and Literature > PZ Childrens literature |
Language other than English: | Welsh |
Publisher: | Gwasg Prifysgol Cymru [University of Wales Press] |
ISBN: | 9781786836502 |
Last Modified: | 25 Oct 2022 13:59 |
URI: | https://orca.cardiff.ac.uk/id/eprint/121316 |
Actions (repository staff only)
Edit Item |