| Iago, Garmon Dafydd
      2019.
      Goleuedigaeth yng Ngweithiau Adorno a Foucault: Tuag at Ddealltwriaeth Newydd o Berthynas eu Gweithiau.
      PhD Thesis,
      Cardiff University.   Item availability restricted. | 
| Preview | PDF
 - Accepted Post-Print Version Download (2MB) | Preview | 
| ![Cardiff University Electronic Publication Form [thumbnail of Cardiff University Electronic Publication Form]](https://orca.cardiff.ac.uk/style/images/fileicons/application_pdf.png) | PDF (Cardiff University Electronic Publication Form)
 - Supplemental Material Restricted to Repository staff only Download (1MB) | 
Abstract
Bwriad y traethawd canlynol fydd deall perthynas gweithiau Theodor Adorno a Michel Foucault. Mae nifer o sylwebwyr wedi dirnad cyn hyn bod tebygrwydd neilltuol rhwng eu gweithiau, a gwelwn ymwneud cymhleth yn y trafodaethau hyn â’r themâu o “oleuedigaeth” a’r Oleuedigaeth hanesyddol. Fodd bynnag, nodweddir y trafodaethau hyn gan wallau ac anghyflawnder dybryd. Cyn awgrymu dealltwriaeth amgen o sut y dylid deall perthynas eu gweithiau, rhaid clirio tir drwy herio’r trafodaethau blaenorol hyn. Canolbwynt pob un o fframweithiau perthynas gweithiau Adorno a Foucault yw tebygrwydd eu beirniadaethau o’n cymdeithasau modern. Fodd bynnag, daw’r dadansoddwyr at gasgliadau pur wahanol am ystyr ac arwyddocâd y tebygrwydd hwn. I Habermas a’r Habermaswyr, cyfarfyddiad rhwng dau feddyliwr gwrth-oleuedig a welwyd: dau feddyliwr sy’n cynhyrchu beirniadaethau mor eithafol nes iddynt ddiddymu’r potensial rhesymol sy’n cael ei drosglwyddo i ni o’r Oleuedigaeth ei hun. Dilynwyd trywydd tebyg gan Foucault gan fynnu mai’r tebygrwydd rhwng eu gweithiau yw’r cyd-ymchwil i gyfraniad rheswm at y sefyllfa gyfredol o “gynddaredd pŵer”. Fodd bynnag, “brawdoliaeth” oleuedig yw hwn: parhad o agwedd feirniadol sy’n canfod ei fynegiant cychwynnol yn nhrafodaeth Kant o oleuedigaeth. Dilynwyd trywydd tebyg yn ddiweddar gan Deborah Cook, a geisiodd ddangos cydnawsedd syniadaethol rhwng beirniadaethau cymdeithasol y ddau feddyliwr gan ddefnyddio traethawd Kant ar oleuedigaeth fel fframwaith unwaith yn rhagor. Fodd bynnag, gwelwn wallau niferus yn y fframweithiau hyn, boed o ran eu dealltwriaeth o’r Oleuedigaeth, eu dealltwriaeth o weithiau un neu ddau o’r meddylwyr, neu o ran problemau hermeniwtegol am ystyr y tebygrwydd. Oherwydd gwallau o’r fath, dangosaf angen am ffordd newydd i ddeall perthynas y ddau feddyliwr. Cynigiaf y dylid deall eu gweithiau yn nhermau tebygrwydd ag annhebygrwydd cyd-amserol. Er yr holl debygrwydd a ellir ei ddangos rhwng eu gweithiau, o graffu, canfyddwn fod rhai gwahaniaethau creiddiol yn ail-gyflwyno annhebygrwydd y tu mewn i’r union osodiadau sy’n ymddangos mor debyg i’w gilydd.
| Item Type: | Thesis (PhD) | 
|---|---|
| Date Type: | Completion | 
| Status: | Unpublished | 
| Schools: | Schools > English, Communication and Philosophy | 
| Subjects: | B Philosophy. Psychology. Religion > B Philosophy (General) | 
| Language other than English: | Welsh | 
| Date of First Compliant Deposit: | 20 February 2020 | 
| Last Modified: | 03 Aug 2022 01:34 | 
| URI: | https://orca.cardiff.ac.uk/id/eprint/129829 | 
Actions (repository staff only)
|  | Edit Item | 

 
							

 Download Statistics
 Download Statistics Download Statistics
 Download Statistics