Loh, Anna
2020.
Defnyddio'r Saesneg yn yr Ystafell Ddosbarth Cymraeg i Oedolion.
MPhil Thesis,
Prifysgol Caerdydd.
![]() Item availability restricted. |
Preview |
PDF
- Accepted Post-Print Version
Download (1MB) | Preview |
![]() |
PDF (Cardiff University Electronic Publication Form)
- Supplemental Material
Restricted to Repository staff only Download (628kB) |
Abstract
Bwriad yr astudiaeth hon oedd casglu barn tiwtoriaid a myfyrwyr Cymraeg i Oedolion Prifysgol Caerdydd ar ddefnyddio’r Saesneg yn yr ystafell ddosbarth. Gofynnwyd eu barn yn benodol am wahardd y Saesneg; am ddiosg yr iaith yn raddol; am droi at yr iaith o dan amryw amgylchiadau dysgu; ac am faint o’r iaith a ddefnyddir. Lluniwyd dau holiadur ar wahân – un i’r tiwtoriaid ac un i’r myfyrwyr – yn cynnwys ymatebion aml-ddewis graddfa Likert gan fwyaf, ac fe’u dosbarthwyd ymhlith holl diwtoriaid a myfyrwyr Cymraeg i Oedolion Prifysgol Caerdydd dros gyfnod o 20 diwrnod yn ystod Pasg 2018. Derbyniwyd cyfanswm o 189 o ymatebion gan y myfyrwyr a 13 gan y tiwtoriaid. Ymatebodd mwyafrif y tiwtoriaid a’r myfyrwyr eu bod yn erbyn gwahardd y Saesneg o’r dosbarth. Ymatebodd mwyafrif hefyd y byddai’n well ganddynt ddiosg y Saesneg yn raddol wrth symud i fyny’r lefelau yn hytrach na diosg yr iaith yn llwyr. Yr oedd y rhan fwyaf o’r tiwtoriaid a’r myfyrwyr o blaid defnyddio’r Saesneg yn y dosbarth o dan amgylchiadau penodol, er enghraifft, er mwyn esbonio pwyntiau gramadegol neu er mwyn cyflwyno geirfa newydd. Nid oedd consensws ynglŷn â faint o’r Saesneg a ddefnyddir ar lawr dosbarth. Nid yw’r defnydd o’r Saesneg mewn dosbarthiadau Cymraeg i Oedolion wedi’i ffurfioli ar hyn o bryd. Byddai’r sector yn elwa o gael arweiniad clir, yn ogystal â hyfforddiant, ar ddefnyddio’r Saesneg yn yr ystafell ddosbarth Cymraeg ail iaith.
Item Type: | Thesis (MPhil) |
---|---|
Date Type: | Completion |
Status: | Unpublished |
Schools: | Welsh |
Language other than English: | Welsh |
Date of First Compliant Deposit: | 26 May 2020 |
Last Modified: | 16 Mar 2021 02:26 |
URI: | https://orca.cardiff.ac.uk/id/eprint/131924 |
Actions (repository staff only)
![]() |
Edit Item |