Beynon, Owain
2022.
Astudiaeth Gyfrifiadurol o Synthesis a Sefydlogrwydd Defnyddiau Mandyllog Anorganig.
PhD Thesis,
Prifysgol Caerdydd.
Item availability restricted. |
Preview |
PDF
- Accepted Post-Print Version
Download (9MB) | Preview |
PDF (Cardiff University Electronic Publication Form)
- Supplemental Material
Restricted to Repository staff only Download (462kB) |
Abstract
Mae yna gryn botensial o gymhwyso defnyddiau mandyllog anorganig er mwyn datrys heriau egni cyfredol. Mae defnyddiau mandyllog yn cael eu defnyddio mewn prosesau cemegol sy’n creu tanwyddau adnewyddadwy neu i storio egni. Mae defnyddiau mandyllog yn addas iawn i gyrraedd y nod o leihau effeithiau newid hinsawdd, ac felly mae deall eu priodweddau sylfaenol yn holl bwysig. Mae seolitau yn ddosbarth o ddefnyddiau mandyllog sy’n dangos actifedd catalytig mewn nifer o adweithion pwysig i greu cemegion a thanwyddau adnewyddadwy. Yn ogystal â hyn, mae cyfansoddion Glas Prwsiaidd (PBAs) yn ddosbarth o ddefnyddiau mandyllog sy’n dangos potensial fel batris. Serch hynny, prin yw’r ddealltwriaeth o sefydlogrwydd a dulliau synthesis o greu defnyddiau mandyllog. Felly, yn y traethawd ymchwil hwn, defnyddiwyd dulliau cyfrifiadurol cyfoes fel Damcaniaeth Dwysedd Ffwythianolion (DFT) cyfnodol, dulliau mecaneg cwantwm/mecaneg foleciwlaidd (QM/MM), ac efelychiadau dynameg moleciwlaidd (MD) i astudio dulliau synthesis, sefydlogrwydd, a phriodweddau seolitau a chyfansoddion PBAs. Edrychwyd ar ddull synthesis newydd o greu seolitau sef ymgorfforiad cyflwr solid (YCS). Defnyddiwyd dulliau DFT a QM/MM i ddarganfod prif gamau ym mecanwaith YCS ar gyfer creu’r catalydd Sn-Beta (Sn-), sef cyd-drefniant Sn(II) asetad i’r fframwaith seolitaidd, datgysylltiad asid asetig, ac ocsideiddiad Sn. Gwelwyd bod dŵr sy’n bresennol yn y fframwaith yn cynorthwyo’r mecanwaith trwy leihau rhwystrau cinetig. Astudiwyd, trwy efelychiadau MD, gryfder effeithiau anharmonig mewn fframwaith seolitau sydd â goblygiadau ar briodweddau catalytig ynghyd ag addasrwydd rhai dulliau o fodelu seolitau. Yn ogystal â hyn, gwelwyd bod presenoldeb dŵr yn cryfhau effeithiau anharmonig. Yn olaf, astudiwyd sefydlogrwydd cyfansoddion PBAs gan ddefnyddio DFT cyfnodol a gwelwyd bod dŵr yn effeithio ar sefydlogrwydd fframweithiau PBAs. Felly, mae dulliau cyfrifiadurol yn ffordd bwerus o astudio defnyddiau mandyllog anorganig, sy’n argoeli’n dda ar gyfer eu cymhwyso i ddatrys rhai o’r heriau egni mae cymdeithas yn eu hwynebu.
Item Type: | Thesis (PhD) |
---|---|
Date Type: | Completion |
Status: | Unpublished |
Schools: | Chemistry |
Language other than English: | Welsh |
Date of First Compliant Deposit: | 22 May 2023 |
Last Modified: | 22 May 2023 08:43 |
URI: | https://orca.cardiff.ac.uk/id/eprint/159757 |
Actions (repository staff only)
Edit Item |