Pulman-Slater, Jack
2023.
Caffaeliad prosodig ymhlith dysgwyr brodorol ac anfrodorol y Gymraeg: astudiaeth o aceniad geirfaol a goslef frawddegol.
PhD Thesis,
Prifysgol Caerdydd.
Item availability restricted. |
Preview |
PDF
- Accepted Post-Print Version
Download (11MB) | Preview |
PDF (Cardiff University Electronic Publication Form)
- Supplemental Material
Restricted to Repository staff only Download (106kB) |
Abstract
Mae'r traethawd hwn yn cynnig astudiaeth seinegol o ynganiad ymhlith dysgwyr y Gymraeg gan edrych y tu hwnt i'r ffyrdd a yngenir seiniau unigol yr iaith. Dadansoddir sut y mae'r nodweddion ynganu yn cael eu cynhyrchu a'u caffael gan ddau fath o ddysgwyr gwahanol mewn dwy ardal wahanol yn ne Cymru. Mae'r gwaith yn ymwneud â chaffael ail iaith ac yn defnyddio dulliau acwstig ac ystadegol. Fodd bynnag, ceir hefyd elfen sosioieithyddol iddo gan fod y caffaeliad a astudir wedi'i seilio mewn cyddestunau o gyffyrddiad iaith syncronig a diacronig rhwng y Gymraeg a'r Saesneg. Lleferydd dysgwyr y Gymraeg sy'n hawlio sylw yr ymchwil hwn. Gofynnir yn benodol i ba raddau y mae eu caffaeliad o nodweddion ynganu wedi'i effeithio gan eu cefndiroedd ieithyddol a'r ardal y maent yn dysgu'r Gymraeg ynddi. Casglwyd y data a ddadansoddwyd gan yr ymchwil hwn o ddwy ardal yn ne Cymru (gweler 1.3 isod). Yr hyn a ddarperir gan y traethawd hwn, felly, yw'r dadansoddiad cyntaf o ynganiaddysgwyr y Gymraeg sy'n edych ar nodweddion ynganu sy'n gweithredu ar draws eiriau a brawddegau llawn. Trwy wneud hyn, mae'r ymchwil yn ymateb yn uniongyrchol i alwadau gan ymchwilwyr ac adolygwyr polisi am fwy o bwyslais ar y nodweddion hyn ac ar ddulliau meintiol o'u dadansoddi. Yn ogystal â hyn, cynigir cyfres o oblygiadau i addysgu ynganu mewn dosbarthiadau Cymraeg fel ail iaith. Er bod yr ymchwil a gyflwynir yma yn craffu ar leferydd dysgwyr y Gymraeg, mae hefyd yn gosod sylfaen ar gyfer gwaith seinegol pellach ar nodweddion ynganu'r Gymraeg a sut y gellir mynd ati i'w cofnodi a'u dadansoddi.
Item Type: | Thesis (PhD) |
---|---|
Date Type: | Completion |
Status: | Unpublished |
Schools: | Welsh |
Subjects: | P Language and Literature > PB Modern European Languages > PB1001 Celtic languages and literature |
Funders: | SWW DTP |
Date of First Compliant Deposit: | 5 December 2023 |
Last Modified: | 08 Dec 2023 09:56 |
URI: | https://orca.cardiff.ac.uk/id/eprint/164538 |
Actions (repository staff only)
Edit Item |