Thomas, Bedwyr
2023.
Datblygu therapïau I drin clefydau prion.
PhD Thesis,
Cardiff University.
Item availability restricted. |
Preview |
PDF (PhD thesis)
- Accepted Post-Print Version
Download (15MB) | Preview |
Preview |
PDF (Supplemental Material- Table)
- Supplemental Material
Download (9MB) | Preview |
![]() |
PDF (Publication form)
- Supplemental Material
Restricted to Repository staff only Download (321kB) |
Abstract
Crynodeb Mae gan glefydau niwroddirywiol nifer o heriau unigryw yn gysyllPedig â datblygu triniaethau effeithiol ar eu cyfer. Mae hyn o ganlyniad i nifer fawr o ffactorau megis diffyg gwybodaeth am eu mecanweithiau ar lefel foleciwlaidd, a’r heriau o ddatblygu cyffuriau sydd yn targedu’r Prif System Nerfol. Teulu o glefydau niwroddirywiol sydd â pheth risg i’r boblogaeth gyffredinol yw clefydau prion, sydd, yn wahanol i glefydau niwroddirywiol mwy adnabyddus, megis clefydau Alzheimer a Parkinson, hefyd yn heintus. Felly, mae hi’n bwysig datblygu triniaeth neu therapi fydd yn ein harfogi er mwyn brwydro yn erbyn y clefydau hyn. Yr hyn sydd wrth wraidd clefydau prion yw trosiad y protein prion cynhenid, iach, i ffurf camblyg, heintus, sydd yn ei dro yn ysgogi ychwaneg o gamblygu gan ledaenu’r clefyd. Nod y prosiect hwn oedd cynllunio a chreu moleciwlau fydd yn targedu’r protein prion cynhenid er mwyn ei ddiraddio yn y gobaith o arafu, neu atal, lledaeniad y clefyd. Er mwyn cyflawni’r nod uchelgeisiol hwn, rhaid dewis strategaeth wahanol i ddefnyddio moleciwlau bychain fel atalyddion neu chaperones. Yn y traethawd ymchwil hwn, disgrifir cynllunio a syntheseiddio cyfres o foleciwlau arbennig PROTAC er mwyn targedu’r protein prion cynhenid. Defnyddiwyd technegau modelu cyfrifiadurol, yn ogystal â chemeg synthePg organig er mwyn creu wyth PROTAC sydd yn barod i’w profi mewn profion cellol a biogemegol
Item Type: | Thesis (PhD) |
---|---|
Status: | Unpublished |
Schools: | Biosciences |
Subjects: | Q Science > Q Science (General) |
Language other than English: | Welsh |
Date of First Compliant Deposit: | 19 January 2024 |
Last Modified: | 19 Jan 2025 02:30 |
URI: | https://orca.cardiff.ac.uk/id/eprint/165684 |
Actions (repository staff only)
![]() |
Edit Item |