Lewis, Owain Rhys
2023.
Hanfod Iaith: Dwyfoli’r Gymraeg ym mudiad iaith y chwedegau a’r saithdegau.
PhD Thesis,
Cardiff University.
Item availability restricted. |
![]() |
PDF
- Accepted Post-Print Version
Restricted to Repository staff only until 28 February 2026 due to copyright restrictions. Download (1MB) |
![]() |
PDF (Electronic Theses and Dissertations Publication Form)
- Supplemental Material
Restricted to Repository staff only Download (1MB) |
Abstract
Yn chwedegau a saithdegau’r ugeinfed ganrif, gwelwyd cynnydd sylweddol mewn ymgyrchu gwleidyddol dros y Gymraeg. Roedd y mudiad iaith ar y pryd yn weithgar ac iddo bresenoldeb amlwg yn y disgwrs cyhoeddus. Bwriad y traethawd hwn yw archwilio rhai elfennau o’r sgwrs gyhoeddus honno a’r syniadau oedd yn greiddiol iddi. Ysgogodd y syniad fod yr iaith am farw amryw i fod yn weithgar dros y Gymraeg: fe symbylwyd J. R. Jones yn enwedig i ymateb i’r argyfwng drwy gyflwyno gweledigaeth o iaith oedd yn ei dwyfoli. Cafodd hyn ddylanwad ar syniadaeth nifer yn y mudiad iaith yn y cenedlaethau dilynol, yn arbennig felly Emyr Llywelyn. Cafwyd hefyd wrth-ymateb i’r ffordd ysbrydol hon o synio am iaith gan garfan o Gristionogion a oedd yn gofidio am ddisodli priod le Duw â syniadau cenedlaetholgar. Cafodd hyn yn ei dro ddylanwad ar y mudiad iaith hefyd, ac fe’i mynegwyd yn ysgrifau Ffred Ffransis yn y saithdegau. Er cynnal cryn drafodaeth ynghylch dylanwad hanesyddol y mudiad iaith ar wleidyddiaeth Cymru, ar ffurf Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn benodol, ni bu llawer o drafodaeth am syniadau’r mudiad iaith ynghylch y Gymraeg. Nod y thesis hwn felly yw mynd i’r afael â’r hyn yr oedd rhai aelodau blaenllaw o’r mudiad iaith yn ei weld yn arwyddocaol am iaith a’r syniadau a ddatblygwyd er mwyn cyfiawnhau bodolaeth a pharhad yr iaith er mwyn dirnad rhesymeg ehangach cenedlaetholdeb ieithyddol Cymraeg. Gobeithiaf, drwy ddangos sut mae’r disgwrs cyhoeddus presennol o gwmpas y Gymraeg yn bur wahanol i’r hyn ydoedd yn y cyfnod dan sylw, danlinellu’r ystyriaethau priodol wrth fyfyrio ar sefyllfa bresennol y Gymraeg a’i dyfodol hi.
Item Type: | Thesis (PhD) |
---|---|
Date Type: | Completion |
Status: | Unpublished |
Schools: | Schools > English, Communication and Philosophy |
Subjects: | B Philosophy. Psychology. Religion > B Philosophy (General) |
Language other than English: | Welsh |
Funders: | Coleg Cymraeg Cenedlaethol |
Date of First Compliant Deposit: | 29 February 2024 |
Last Modified: | 03 Mar 2025 10:06 |
URI: | https://orca.cardiff.ac.uk/id/eprint/166626 |
Actions (repository staff only)
![]() |
Edit Item |