| Alter, Dewi 2025. Cof diwylliannol yng Nghymru’r cyfnod modern cynnar. Gwasg Prifysgol Cymru/ Universitry of Wales Press. |
Abstract
Un o brif seiliau hunaniaeth genedlaethol y Cymry yn ystod y cyfnod modern cynnar oedd eu hanes – roedd eu dealltwriaeth o’u gorffennol yn cynnig iddynt amlinelliad o’r hyn a oedd yn eu diffinio. Mae’r gyfrol hon yn archwilio naratifau hanes yn ôl damcaniaeth cof diwylliannol. Wrth ystyried testunau sy’n trafod hanes y Cymry fel cof diwylliannol cenedlaethol (hynny yw, dealltwriaeth o’r gorffennol a oedd yn diffinio’r genedl Gymreig), teflir goleuni o’r newydd ar hunaniaeth Gymreig. Mewn cyfnod o newidiadau crefyddol, gwleidyddol a deallusol arwyddocaol, felly, cafodd y gorffennol Cymreig ei ail-ddyfeisio yn ôl daliadau’r awduron; ac, o graffu ar sut yr aethpwyd ati i ddiffinio’r genedl trwy gofnodi’r gorffennol, amlygir inni arwyddocâd cofio’r gorffennol.
| Item Type: | Book - authored |
|---|---|
| Book Type: | Authored Book |
| Date Type: | Publication |
| Status: | Published |
| Schools: | Schools > Welsh |
| Publisher: | Gwasg Prifysgol Cymru/ Universitry of Wales Press |
| ISBN: | 9781837722402 |
| Last Modified: | 22 Jan 2026 12:00 |
| URI: | https://orca.cardiff.ac.uk/id/eprint/176982 |
Actions (repository staff only)
![]() |
Edit Item |




CORE (COnnecting REpositories)
CORE (COnnecting REpositories)