Cardiff University | Prifysgol Caerdydd ORCA
Online Research @ Cardiff 
WelshClear Cookie - decide language by browser settings

Synthesis a dynameg cellog nanoronynnau poly(lactic-co-glycolic acid) yn targedu HER2 ar gelloedd canser y fron

Hughes, Carwyn 2025. Synthesis a dynameg cellog nanoronynnau poly(lactic-co-glycolic acid) yn targedu HER2 ar gelloedd canser y fron. PhD Thesis, Cardiff University.
Item availability restricted.

[thumbnail of 2025HughesCSPhD.pdf]
Preview
PDF - Accepted Post-Print Version
Download (13MB) | Preview
[thumbnail of Cardiff University Electronic Publication Form] PDF (Cardiff University Electronic Publication Form) - Supplemental Material
Restricted to Repository staff only

Download (85kB)

Abstract

Mae’r ganrif hon yn dyst i ddatblygiadau arwyddocal mewn dealltwriaeth o ganser y fron a thriniaethau newydd sydd yn fwy effeithiol. Er hyn mae’r cyflwr, yn fydol, yn cynrychioli'r canser fwyaf cyffredin ac yn flynyddol yn achosi >500,000 o farwolaethau . Mae gwir angen triniaethau newydd a rhai sydd yn benodol dargedu celloedd canser y fron. I geisio ateb y galw yma mae ymchwil yn datblygu nanoronynnau (NGau) sy’n targedu celloedd canser y fron ac yn gydredol gludo amrywiaeth o gyffuriau. Yn anffodus dyw trawsfudiad NGau o’r labordy i’r clinig ddim yn effeithiol ac mae galw am ddealltwriaeth dyfnach o gydberthynas NGau a’r celloedd, o’r cyffyrddiad cyntaf i’r effaith olaf. Yn y traethawd hwn datblygwyd NGau polymeraidd Poly(lactic-co-glycolic acid) (PLGA), wedi ei addurno â Trastuzumab (PLGA-Tz) . Dangosodd astudiaethau microsgopeg cydffocal fod y PLGA-Tz yn benodol glymu i linellau cell canser y fron Her2+ ac yn mewnleoli cyn teithio i’r lysosomau. Dangosodd arbrofion pellach fod modd crynhoi y cuffur doxorubicin yn y NGau oedd wedi ei fewnleoli yn benodol i gelloedd HER2+. Profodd arbrofion hyfywedd fod effaith y doxorubicin ar y celloedd hefyd yn ddibynol ar fynegiant HER2 a’r nifer o wrthgyrff oedd ynghlwm i bob gronyn. Drwy ddefnyddio microsgopeg sganio electron cafodd y ddamcaniaeth fod PLGA-Tz yn croeslynnu HER2 ac ysgogi macropinosytosis ei brofi’n gywir. O fewn 10 munud o gyflwyno y PLGA-Tz i’r celloedd roedd crychu sylweddol ar wyneb y gell . I astudio crychu mewn celloedd byw datblygwyd techeneg delweddu cydffocal-3D. Yn sgil y gwaith gellir rhagdybio fod astudiaethau cynnar o gydberthynas NGAu a chelloedd roi dealltwriaeth pwysig o ddigwyddiadau angenrheidiol i alluogi iddynt gael mynediad a hefyd roi gwybodaeth ar 18 sut i greu NGau mwy effeithiol yn erbyn canser y fron HER2 a mathau eraill o ganser sydd â derbynnwyr i’w targedu ar y bilen blasma.

Item Type: Thesis (PhD)
Date Type: Completion
Status: Unpublished
Schools: Schools > Pharmacy
Subjects: Q Science > Q Science (General)
Date of First Compliant Deposit: 4 February 2026
Last Modified: 04 Feb 2026 10:36
URI: https://orca.cardiff.ac.uk/id/eprint/184376

Actions (repository staff only)

Edit Item Edit Item

Downloads

Downloads per month over past year

View more statistics