Evas, Jeremy ![]() ![]() Item availability restricted. |
Preview |
PDF
- Accepted Post-Print Version
Download (2MB) | Preview |
![]() |
PDF
- Supplemental Material
Restricted to Repository staff only Download (722kB) |
Abstract
Archwilia’r traethawd hwn rai o’r problemau a wynebir wrth hyrwyddo iaith fechan, gan ddefnyddio’r Gymraeg yn brif enghraifft. Amlinella’r bennod gyntaf effaith negyddol unffurfrwydd monolithig y wladwriaeth-genedl ar amlieithrwydd, gan ei wrthwynebu ar y sail y gall medru sawl iaith wella hyblygrwydd meddwl a pherthnasau rhwng gwahanol grwpiau. Yn yr ail bennod cyflwynir damcaniaeth cymdeithaseg iaith a chynllunio ieithyddol ac amlinellir yr hyn y gallai disgyblaeth marchnata ei wneud i newid agweddau ac ymddygiad o blaid dwyieithrwydd. Ym mhennod 3 cyflwynir canlyniadau ymchwil a wnaed ar 219 o breswylwyr Dyffryn Teifi, ardal a chanddi ddwysedd siaradwyr Cymraeg uchel. Archwilir sawl agwedd ar yr iaith, e.e. defnydd iaith, dyheadau siaradwyr at y dyfodol, mesurau cynllunio ieithyddol a phroblemau a photensial grðp ail iaith cynyddol yr ardal. Ym mhennod 4 cymherir agweddau 324 o unigolion tuag at yr iaith, traean ohonynt yn ddisgyblion chweched dosbarth mewn ysgolion Cymraeg, traean arall yn ddisgyblion uniaith Saesneg a thraean yn ddysgwyr. Cyflwynir eu hatebion i restr gyffredin o gwestiynau parthed defnyddioldeb y Gymraeg, hunaniaeth genedlaethol a mesurau cynllunio ieithyddol. Pwysleisir pa mor bwysig yw siaradwyr ail iaith a’r rhai di-Gymraeg wrth geisio goresgyn y rhwystrau i sefyllfa ieithyddol wedi ei ‘normaleiddio’. Ym mhennod olaf y traethawd dadansoddir rhwystr arall i ddwyieithrwydd, sef y methiant anferth i gynhyrchu siaradwyr newydd, rhugl o oedolion. Cynigir mai methodoleg hen ffasiwn sydd ar fai am hyn a chynigir cyrchddulliau ‘ymennydd gyfeillgar’ i gymryd eu lle. Archwilir un o’r rhain, Suggestopedia, yn fanwl, a chesglir ei fod o leiaf mor effeithiol â chyrchddulliau eraill ac, o bosib, yn fwy effeithiol o dipyn. Cloir y traethawd drwy bwysleisio mai dim ond trwy gynllunio’n strategol wrth ystyried anghenion siaradwyr newydd o oedolion y goresgynnir y rhwystrau ar lwybr dwyieithrwydd
Item Type: | Thesis (PhD) |
---|---|
Date Type: | Completion |
Status: | Unpublished |
Schools: | Schools > Welsh |
Subjects: | H Social Sciences > HM Sociology P Language and Literature > P Philology. Linguistics |
Language other than English: | Welsh |
Funders: | Prifysgol Caerdydd/Cardiff University |
Date of First Compliant Deposit: | 30 March 2016 |
Last Modified: | 21 Oct 2022 10:59 |
URI: | https://orca.cardiff.ac.uk/id/eprint/42030 |
Citation Data
Actions (repository staff only)
![]() |
Edit Item |