Owen, Hywel Befan 2005. Effaith dad-ddiwydiannu ar yr iaith Gymraeg yng nghwm Gwendraeth. PhD Thesis, Cardiff University. |
![]() |
PDF
- Accepted Post-Print Version
Download (20MB) |
Abstract
Bwriad yr astudiaeth hon yw ystyried effaith datblygiadau economaidd ar yr iaith Gymraeg yng Nghwm Gwendraeth yn ystod y cyfhod 1891-2005. Ar ddechrau'r cyfhod yr oedd yr ardal yn un amaethyddol ond erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg profodd yr ardal ddatblygiadau diwydiannol ar raddfa helaeth. Y lofa oedd prif gyflogwr yr ardal am bron i hanner canrif ac yr oedd yn ganolog i bob agwedd o fywyd y trigolion. Fodd bynnag, arweiniodd cau'r pyllau glo at ddiweithdra, digofaint ac amrywiol broblemau eraill. Nid oes bellach un prif gyflogwr a gwelir amryw o ddiwydiannau yn darparu cyflogaeth i drigolion Cwm Gwendraeth. Yn wahanol i'r lofa, nid y Gymraeg yw iaith naturiol nifer o'r gweithwyr sydd yn y swyddi hyn. Ystyrir newidiadau eraill megis y rhai hynny sy'n ymwneud a thramidiaeth yn sgil datblygiad yr M4. Trafodir cefhdir hanesyddol ac ieithyddol yr ardal a rol allweddol Cwm Gwendraeth yn y cyd-destun cenedlaethol. Yn ogystal, bydd trafodaeth o'r hyn sy'n digwydd mewn gwledydd eraill sef Israel, Iwerddon, Gwlad y Basg a Chatalonia ar gyfer deall y cyd-destun rhyngwladol. Dadansoddir yn fanwl dystiolaeth Cyfrifiadau 1891 a 1901 ym mhlwyf Llan-non ar gyfer ystyried tueddiadau ar lefel meicro. Trafodir nifer o agweddau sy'n graidd i'r astudiaeth gyfan gan gynnwys tueddiadau mudo a phatrymau iaith o fewn y teulu. Ystyrir y rhwydweithiau hynny fu'n cynnal y Gymraeg yn yr ardal yn ystod yr ugeinfed ganrif. Bu lleihad yn eu pwysigrwydd ac yr oedd hyn yn cyd-fynd a dadfeiliad y diwydiant glo. Arweiniodd hyn at sefydlu Menter Cwm Gwendraeth yn 1991 sef y fenter iaith gyntaf yng Nghymru a thrafodir ei dylanwad with gynnal y Gymraeg yn yr ardal. Cynhaliais waith maes yn yr ardal drwy gyfrwng dosbarthu holiaduron a chynnal cyfweliadau dwys a chyflwynir dadansoddiad manwl o'r canlyniadau. Yn yr astudiaeth hon, rhoddir sylw i ardal sydd wedi profi effeithiau 61 ddiwydiannol niweidiol ond sy'n parhau yn un o gadarnleoedd yr iaith, ac sydd yn allweddol yn yr ymdrechion i ddiogelu'r iaith Gymraeg.
Item Type: | Thesis (PhD) |
---|---|
Status: | Unpublished |
Schools: | Welsh |
Subjects: | P Language and Literature > PB Modern European Languages > PB1001 Celtic languages and literature |
ISBN: | 9781303170447 |
Date of First Compliant Deposit: | 30 March 2016 |
Last Modified: | 12 Feb 2016 23:11 |
URI: | https://orca.cardiff.ac.uk/id/eprint/54248 |
Actions (repository staff only)
![]() |
Edit Item |