Evas, Jeremy ![]() |
Preview |
PDF (PowerPoint Presentation)
- Accepted Post-Print Version
Download (905kB) | Preview |
Abstract
Mae’r papur gwyn hwn yn rhan o gyfres sy’n hyrwyddo gwybodaeth am dechnoleg iaith a’i photensial. Mae’n targedu addysgwyr, newyddiadurwyr, llunwyr polisi, gwleidyddion, cynrychiolwyr a chymunedau ieithyddol ac eraill. Mae faint o dechnoleg iaith sydd ar gael yn Ewrop a’r defnydd ohoni yn amrywio rhwng ieithoedd. O ganlyniad, mae’r camau gweithredu y mae eu hangen i gefnogi ymchwil bellach ac i ddatblygu technolegau iaith hefyd yn wahanol ar gyfer pob iaith. Mae’r camau gweithredu angenrheidiol yn dibynnu ar sawl ffactor, megis cymhlethdod yr iaith a nifer ei siaradwyr. Yn y gyfres hon o bapurau gwyn, mae META-NET, rhwydwaith o ragoriaeth a ariennir gan y Comisiwn Ewropeaidd, wedi cynnal dadansoddiad o’r adnoddau a thechnolegau ieithyddol cyfredol sydd ar gael. Canolbwyntiodd y dadansoddiad ar 23 iaith swyddogol Ewrop yn ogystal ag ieithoedd cenedlaethol a rhanbarthol pwysig eraill Ewrop. Mae canlyniadau’r dadansoddiad hwn yn awgrymu bod llawer o fylchau ymchwil sylweddol ar gyfer pob iaith. Bydd dadansoddiad mwy manwl-arbenigol ac asesiad o’r sefyllfa bresennol yn helpu i fanteisio i’r eithaf ar ymchwil ac i leihau risgiau. Fis Tachwedd 2011, roedd META-NET yn cynnwys 54 o ganolfannau ymchwil o 33 o wledydd Ewropeaidd sydd yn gweithio gyda rhanddeiliaid o’r economi (cwmnïau meddalwedd, darparwyr a defnyddwyr technoleg) asiantaethau llywodraethol, sefydliadau ymchwil, sefydliadau anllywodraethol, cymunedau ieithyddol a Phrifysgolion Ewropeaidd. Ar y cyd â’r cymunedau hyn, mae META-NET wrthi’n creu gweledigaeth gyffredin ar gyfer technoleg ac agenda ymchwil strategol ar gyfer Ewrop amlieithog yn 2020.
Item Type: | Conference or Workshop Item (Lecture) |
---|---|
Date Type: | Completion |
Status: | Unpublished |
Schools: | Welsh |
Subjects: | P Language and Literature > PB Modern European Languages > PB1001 Celtic languages and literature T Technology > T Technology (General) |
Language other than English: | Welsh |
Publisher: | NPLD |
Funders: | NPLD, S4/C, Prifysgol Caerdydd/Cardiff University, Llywodraeth Cymru/Welsh Government |
Related URLs: | |
Date of First Compliant Deposit: | 30 March 2016 |
Last Modified: | 25 Oct 2022 08:57 |
URI: | https://orca.cardiff.ac.uk/id/eprint/56549 |
Actions (repository staff only)
![]() |
Edit Item |