Lewis, Llyr
2014.
'Newydd gân a luniodd i'w genedl': Agweddau ar Geltigrwydd T. Gwynn Jones a W. B. Yeats, 1890-1925.
PhD Thesis,
Prifysgol Caerdydd.
![]() Item availability restricted. |
Preview |
PDF
- Accepted Post-Print Version
Available under License Creative Commons Attribution Non-commercial No Derivatives. Download (8MB) | Preview |
![]() |
PDF
Restricted to Repository staff only Download (2MB) |
Abstract
Amcan y thesis hwn yw cynnig ailystyriaeth o’r bardd, yr ysgolhaig a’r cyfieithydd T. Gwynn Jones (1871-1949), o fewn fframwaith cymharol pan-Geltigrwydd dechrau’r ugeinfed ganrif, ac yn benodol ceisir llunio cymariaethau rhwng Jones a’i gyfoeswr, y bardd Gwyddelig, W. B. Yeats (1865-1939). Trwy ystyried yr awduron hyn yng ngoleuni astudiaethau diweddar ym maes ôl-drefedigaethedd, bydd yr ymchwil yn rhoi sylw hirddisgwyliedig i Jones, yn ogystal â chynnig golwg newydd ar Yeats. Mae’r thesis yn dadlau fod Jones a Yeats wedi adfeddiannu Celtigrwydd Arnoldaidd, gan ei ddefnyddio i bwrpas gwrth-drefedigaethol. Cais y cyflwyniad osod Celtigrwydd yn ei gyd-destun deallusol, yn ogystal ag awgrymu’r modd y gellir defnyddio fframwaith Celtaidd i gynnig ailystyriaeth o ôl-drefedigaethedd. Yn yr ail bennod, dangosir sut y ffurfiwyd Celtigrwydd y ddau awdur o fewn cyd-destun cosmopolitanaidd, Prydeinig, ond eu bod hefyd wedi llwyddo i gadw cysylltiad a ffurfio perthynas â’u cyfryw wledydd. Yn y drydedd bennod, archwilir y modd yr oedd Celtigrwydd yn fodd o ddod at iaith gyda golwg newydd, a cheisir dangos sut y gallai hunaniaeth Geltaidd, yn fwy felly na hunaniaeth Gymreig, neu Eingl-Wyddelig, drosgynnu ffiniau ieithyddol. Cynigir yn y bedwaredd bennod fod Jones yn trafod ei Geltigrwydd mewn termau ysgolheigaidd, a Yeats yn dod at Geltigrwydd o safbwynt arlunydd, gan eu galluogi i sefyll ar unwaith oddi mewn ac oddi allan i’w cyfryw ddiwylliannau, a rhwng cysyniadau ‘gweledigaethol’ a ‘naratifol’ o genedligrwydd. Mae’r bumed bennod yn archwilio’r berthynas rhwng Celtigrwydd a ffurf farddonol, ac yn benodol y defnydd o’r ‘dryll’ ym marddoniaeth Jones a Yeats. Trwy wneud hyn codir cwestiynau ynghylch dilysrwydd labeli megis Rhamantiaeth a Moderniaeth wrth ymdrin â llenyddiaeth mewn diwylliannau lleiafrifol. Daw’r thesis i glo trwy ddadlau y ffurfiwyd Celtigrwydd T. Gwynn Jones a W. B. Yeats fel math ar hunaniaeth amgen i Brydeindod, a oedd yn trosgynnu ffiniau daearyddol ac a oedd yn galluogi cysylltu a chydweithio rhyngwladol. Ni ddylid synio am hunaniaeth Geltaidd y naill awdur na’r llall, awgrymir, yn syml fel un wrth-drefedigaethol, wrthymerodraethol, ond yn hytrach fel gofod sy’n caniatáu iddynt osod eu hunain mewn amrywiaeth o safleoedd ar draws rhychwant eang, o’r ymerodraethol i’r trefedigaethedig, a rhwng hynny hefyd. Dylid gochel, hefyd, rhag ystyried Celtigrwydd neu hunaniaeth Geltaidd fel ffenomenâu unffurf, unochrog, ond yn hytrach fel ffenomenâu sydd yn hyblyg ac yn addasu wrth groesi ffiniau diwylliannol, ieithyddol, a gwleidyddol.
Item Type: | Thesis (PhD) |
---|---|
Status: | Unpublished |
Schools: | English, Communication and Philosophy Welsh |
Subjects: | P Language and Literature > PB Modern European Languages > PB1001 Celtic languages and literature |
Language other than English: | Welsh |
Date of First Compliant Deposit: | 30 March 2016 |
Last Modified: | 06 Oct 2023 14:55 |
URI: | https://orca.cardiff.ac.uk/id/eprint/59476 |
Actions (repository staff only)
![]() |
Edit Item |