Jones, Hywel ORCID: https://orcid.org/0000-0001-8308-2002 2012. Darlun ystadegol o sefyllfa'r Gymraeg. Caerdydd: Bwrdd yr Iaith Gymraeg. |
Abstract
Mae’r gyfrol hon yn bwrw golwg dros ystod eang o ystadegau yn ymwneud â’r Gymraeg. Eir i fanylion mewn sawl maes ond nid yw’n holl gynhwysfawr. Penderfynwyd canolbwyntio ar nifer a chanran y rhai sy’n gallu siarad Cymraeg, eu sgiliau llythrennedd, a’r defnydd gweithredol a wneir o’r iaith. Ni chyffyrddir â maes y cyfryngau o gwbl. Cynaladwyedd y sefyllfa bresennol a’r rhagolygon am y dyfodol yw’r brif ystyriaeth. Dyma rai o’r casgliadau pwysicaf. Cynyddodd y ganran oedd yn gallu siarad Cymraeg rhwng 1991 a 2001 yn bennaf oherwydd twf mewn dysgu Cymraeg fel ail iaith yn yr ysgolion dros y cyfnod hwnnw. Mae nifer a chanran y siaradwyr iaith gyntaf yn dal i gynyddu ymhlith yr ifainc o ganlyniad i dwf addysg cyfrwng Cymraeg. Mae allfudo yn effeithio’n sylweddol ar y nifer sy’n gallu siarad Cymraeg yng Nghymru. Mae mewnfudo’n effeithio’n sylweddol ar y ganran sy’n gallu siarad Cymraeg yng Nghymru. Adeg Cyfrifiad 2001, roedd 20% o’r boblogaeth wedi eu geni yn Lloegr (Ffigur 72). Gellir disgwyl bod y ganran yn uwch erbyn hyn ac yn parhau i gynyddu. O ran siaradwyr Cymraeg rhugl ymddengys fod allfudiad net o Gymru. Awgryma’r ffigurau bod nifer y siaradwyr rhugl yng Nghymru yn gostwng yn flynyddol. Newidiodd dosbarthiad daearyddol y siaradwyr Cymraeg rhwng 1991 a 2001. Golygai hynny fod y tebygolrwydd y byddai siaradwr Cymraeg yn cwrdd ag un arall ar hap wedi lleihau dros y cyfnod hwnnw. Mae goblygiadau o ran defnydd yr iaith a ffurfiant cartrefi lle defnyddir y Gymraeg yn deillio o’r fath newid. Nid yw canlyniadau arolygon diweddar na’r amcanestyniadau a gyfrifwyd yn awgrymu y gwelir cynnydd sylweddol yn y ganran sy’n gallu siarad Cymraeg yn y dyfodol agos.
Item Type: | Book |
---|---|
Book Type: | Authored Book |
Date Type: | Publication |
Status: | Published |
Schools: | Medicine |
Publisher: | Bwrdd yr Iaith Gymraeg |
ISBN: | 9780953533480 |
Last Modified: | 05 Jan 2024 04:53 |
URI: | https://orca.cardiff.ac.uk/id/eprint/67148 |
Actions (repository staff only)
Edit Item |