Sheppard, Lisa Caryn
2015.
O’r Gymru ‘Ddu’ i’r Ddalen ‘Wen’: Darllen Amlddiwylliannedd ac Aralledd o’r Newydd yn Ffuglen Gyfoes De Cymru, er 1990.
PhD Thesis,
Cardiff University.
Item availability restricted. |
Preview |
PDF
- Accepted Post-Print Version
Download (1MB) | Preview |
![]() |
PDF
- Supplemental Material
Restricted to Repository staff only Download (744kB) |
Abstract
Mae’r traethawd hwn yn archwilio’r portread o amlddiwylliannedd yn ne Cymru a geir mewn ffuglen Gymraeg a Saesneg er 1990. Trwy ddefnyddio cysyniad theoretig yr ‘arall’ a damcaniaethau ôl-drefedigaethol cysylltiedig, mae’r astudiaeth hon yn ceisio osgoi pegynu rhwng cymunedau Cymraeg a Saesneg eu hiaith Cymru, fel y mae astudiaethau eraill ar amlddiwylliannedd Cymreig wedi’i wneud. Eir ati, yn hytrach, i drafod sut y mae’n bosib i gymeriadau o unrhyw gefndir ethnig, hiliol, crefyddol neu ieithyddol brofi aralledd oherwydd safbwyntiau goddrychol gwahanol, ac oherwydd y cyfuniad o wahanol elfennau sy’n creu hunaniaeth yr unigolyn. Trwy ystyried yr hybridedd hwn a berthyn i’r cymeriadau a’r nofelau fel ei gilydd, cynigir ffordd newydd o feddwl am amlddiwylliannedd yng Nghymru. Gesyd fframwaith theoretig trwy olrhain datblygiad cysyniadau aralledd a hybridedd yng ngwaith Hegel, de Beauvoir, Fanon, Said a Bhabha, gan fanylu ar berthnasedd eu damcaniaethau i ddadleuon am amlddiwylliannedd yng Nghymru. Ceir wedyn bedair pennod o ddadansoddi testunol. Mae’r cyntaf yn tynnu ar waith Bakhtin i drafod sut y mae awduron yn defnyddio nofelau hybrid, aml-leisiol fel gofod hybrid lle y gall cymeriadau archwilio’u haralledd. Defnyddia’r ail bennod ddamcaniaethau Bhabha am yr ystrydeb drefedigaethol a phegynau deuaidd i ystyried sut y mae aralledd a hybridedd cymeriadau’r nofelau yn herio delweddau ystrydebol a phegynol o Gymreictod. Mae’r drydedd bennod yn troi at ystrydebau am y siaradwyr Cymraeg a Saesneg a thrafodir sut y mae’r cymeriadau yn defnyddio lleoliad y dafarn er mwyn eu herio. Ystyria’r bedwaredd pennod effaith mudo a mewnfudo ar aralledd y mudwyr yng ngoleuni theorïau Said am alltudiaeth. Daw’r traethawd i gasgliad ar berthynas y portread llenyddol hwn ag amlddiwylliannedd yn y byd go iawn, gan awgrymu bod darllen testunau Cymraeg a Saesneg ochr yn ochr â’i gilydd yn gallu’n annog i ddatblygu’n genedl fwy cynhwysol.
Item Type: | Thesis (PhD) |
---|---|
Status: | Unpublished |
Schools: | English, Communication and Philosophy Welsh |
Subjects: | P Language and Literature > PB Modern European Languages > PB1001 Celtic languages and literature P Language and Literature > PN Literature (General) > PN0080 Criticism P Language and Literature > PR English literature |
Uncontrolled Keywords: | Amlddiwylliannedd; Ffuglen; Rhyddiaith; Cymru; Cymraeg; Llenyddiaeth Saesneg Cymru; Ol-drefedigaethedd; Theori Lenyddol; Beirniadaeth Lenyddol; Aralledd; Yr Arall; Llenyddiaeth Multiculturalism; Fiction; Prose; Wales; Welsh language; Welsh Writing in English; Postcolonialism; Literary Theory; Literary Criticism; Otherness; The Other; Literature |
Language other than English: | Welsh |
Funders: | Ysgoloriaethau'r Llywydd Prifysgol Caerdydd ar gyfer (Ail)Ddehongli Amlddiwylliannedd |
Date of First Compliant Deposit: | 30 March 2016 |
Last Modified: | 05 Nov 2019 03:49 |
URI: | https://orca.cardiff.ac.uk/id/eprint/73575 |
Actions (repository staff only)
![]() |
Edit Item |