Screen, Benjamin 2017. Effaith Defnyddio Cofion Cyfieithu ar y Broses Cyfieithu: Ymdrech a Chynhyrchiant Cyfieithwyr Proffesiynol Cymraeg. Gwerddon 23 (1) , pp. 10-35. |
Preview |
PDF
- Published Version
Download (2MB) | Preview |
Abstract
Mae cyfieithu i’r Gymraeg wedi tyfu bellach yn ddiwydiant pwysig, ac mae’r berthynas rhwng cyfieithu proffesiynol a chynllunio ieithyddol ehangach wedi cael sylw academaidd yn ddiweddar ochr yn ochr â hyn (cf. Gonzalez 2005, O’Connall a Walsh 2006, Kaufmann 2010, 2012, Nunez 2013). Mae cyfieithwyr yn hwyluso ac yn cynorthwyo ymdrechion i amddiffyn hawliau iaith siaradwyr lleiafrifol ac yn cyfrannu at y gwaith ehangach o adfer yr ieithoedd hyn, trwy ddarparu cyfieithiadau o destunau amrywiol ac wrth alluogi siaradwyr ieithoedd lleiafrifol i siarad eu hiaith. O ganlyniad i bwysigrwydd cyfieithwyr i lwyddiant polisïau iaith a’u lle canolog yn y broses o amddiffyn hyfywedd y gymuned Gymraeg, mae’r dulliau y mae cyfieithwyr y Gymraeg yn cyfieithu drwyddynt hefyd yn ystyriaeth berthnasol i gynllunwyr iaith. A all technolegau cyfieithu penodol gyflymu cyfieithu, gan leihau’r ymdrech sydd ynghlwm wrth greu cyfieithiad a chan gynyddu cynhyrchiant cyfieithwyr proffesiynol? Mae hyn yn ystyriaeth berthnasol yng nghyd-destun datblygiadau polisi diweddar, gyda safonau cyntaf Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 wrthi’n cael eu gweithredu. Bydd yr erthygl hon yn mynd i’r afael â’r effaith y mae golygu allbwn Cofion Cyfieithu ar ffurf Cyfatebiaethau Rhannol yn ei gael ar y broses o ffurfio cyfieithiad, ar y cyd ag ystyried yr effaith ar brosesau cynhyrchu testun, gan gynnwys ystyried hefyd nifer y geiriau a gynhyrchir. Gwneir hynny o fewn fframwaith cymharol, lle y defnyddir cyfieithu heb gymorth allbwn o’r cof cyfieithu yn waelodlin.
Item Type: | Article |
---|---|
Date Type: | Publication |
Status: | Published |
Schools: | Welsh |
Subjects: | P Language and Literature > PB Modern European Languages > PB1001 Celtic languages and literature |
Publisher: | Acedemaidd Cymraeg |
ISSN: | 1741-4261 |
Date of First Compliant Deposit: | 31 March 2017 |
Date of Acceptance: | 1 September 2016 |
Last Modified: | 02 May 2023 13:47 |
URI: | https://orca.cardiff.ac.uk/id/eprint/94743 |
Actions (repository staff only)
![]() |
Edit Item |