Higham, Gwennan Elin
2016.
Dysgu Cymraeg i Fewnfudwyr: Llunio Llwybr at Ddinasyddiaeth Gynhwysol Gymreig.
PhD Thesis,
Cardiff University.
Item availability restricted. |
Preview |
PDF
- Accepted Post-Print Version
Download (2MB) | Preview |
![]() |
PDF
- Supplemental Material
Restricted to Repository staff only Download (88kB) |
Abstract
Mewnfudo, dinasyddiaeth a dysgu iaith: mae’r ddoethuriaeth yn dod â’r tair thema hon ynghyd—themâu sydd yn esgor ar ddadleuon parhaus yn sgil tueddiadau mewnfudo cynyddol mewn cenedl-wladwriaethau democrataidd. Mae’r prosiect ymchwil amlddisgyblaethol yn gyntaf yn cymhwyso damcaniaethau cyfoes ar integreiddio, megis amlddiwylliannedd a rhyngddiwylliannedd, i achos Cymru ac yn benodol ei sefyllfa ddwyieithog neilltuol. Yn hyn o beth, mae’r ddoethuriaeth yn cymharu ac yn gwrthgyferbynnu modelau o gymhwyso amrywiaeth a dinasyddiaeth er mwyn sefydlu model ffafriol ar gyfer cyd-destun y Gymraeg. Defnyddir Québec fel astudiaeth arbrofol ar gyfer yr ymchwil, drwy ddarparu modelau methodolegol ond hefyd drwy astudio ymarfer da mewn integreiddio mewnfudwyr drwy’r rhaglen francisation. Yn ail, yn sgil gwaith ethnograffig yn Québec ac yna yng Nghymru, mae’r ymchwil yn mynd i’r afael â’r berthynas rhwng dysgu Cymraeg a datblygu cysyniad o ‘ddinasyddiaeth’ a chydlyniant cymunedol ar y lefel leol, sydd yn wahanol i’w ddiffiniad swyddogol gan Lywodraeth y DG. Yn drydydd, ar sail cyfweliadau â swyddogion Llywodraethol, tiwtoriaid iaith a mewnfudwyr grwpiau ffocws ac arsylwadau cyfranogol mewn dosbarthiadau iaith, mae’r ddoethuriaeth yn gwneud casgliadau ynghylch y cyfleoedd a’r rhwystrau i ddatblygu prosiect dinasyddiaeth sydd yn cynnwys ac yn hyrwyddo dysgu Cymraeg i fewnfudwyr, ac o ganlyniad i holl ddinasyddion Cymru.
Item Type: | Thesis (PhD) |
---|---|
Date Type: | Publication |
Status: | Unpublished |
Schools: | Welsh |
Uncontrolled Keywords: | migration, migrants, citizenship, Welsh, language learning, integration, cohesion, mewnfudo, dinasyddiaeth, dysgu Cymraeg, mewnfudwyr, addysg iaith, cydlyniant, integreiddio |
Language other than English: | Welsh |
Funders: | Arts and Humanities Research Council |
Date of First Compliant Deposit: | 13 December 2016 |
Last Modified: | 19 Oct 2021 01:19 |
URI: | https://orca.cardiff.ac.uk/id/eprint/96723 |
Actions (repository staff only)
![]() |
Edit Item |