Cardiff University | Prifysgol Caerdydd ORCA
Online Research @ Cardiff 
WelshClear Cookie - decide language by browser settings

Astudiaeth o ganfyddiadau tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion o anawsterau ynganu ymhlith dysgwyr yr iaith

Rees, Iwan Wyn ORCID: https://orcid.org/0000-0001-5859-3839 and Morris, Jonathan ORCID: https://orcid.org/0000-0003-3463-5277 2018. Astudiaeth o ganfyddiadau tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion o anawsterau ynganu ymhlith dysgwyr yr iaith. Gwerddon 27 , pp. 39-66.

[thumbnail of Gwerddon27_e3 - Astudiaeth o ganfyddiadau tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion.pdf]
Preview
PDF - Published Version
Download (504kB) | Preview

Abstract

Cyflwyna’r erthygl hon ddadansoddiad manwl o safbwyntiau tiwtoriaid profiadol ar ynganu dysgwyr Cymraeg i Oedolion (CiO) a’r sylw a roddir i ddysgu ynganu yn y sector. Casglwyd y data a gyflwynir yma drwy ddosbarthu holiadur ar-lein i diwtoriaid profiadol o wahanol rannau o Gymru, a thrwy gynnal grwpiau ffocws â sampl o’r tiwtoriaid hyn mewn dau leoliad penodol yng Nghymru. Nodau’r ymchwil yw sefydlu sut y mae tiwtoriaid yn canfod anawsterau ynganu dysgwyr, a darganfod i ba raddau y maent wedi eu hyfforddi’n ddigonol ar gyfer cynorthwyo dysgwyr o safbwynt yr agwedd heriol hon ar ddysgu iaith. Archwilir hefyd i ba raddau y mae gwahanol elfennau ynganu (e.e. cynhyrchu seiniau penodol a goslefu) yn effeithio ar allu dysgwyr i gyfathrebu’n effeithiol y tu allan i’r ystafell ddosbarth. Cyflwynir ar ddiwedd yr erthygl hon gyfres o argymhellion o ran y modd y gall y sector CiO wella ei darpariaeth o safbwynt ynganu. Mae’r argymhellion hyn yn ymwneud â darpariaeth y cyrsiau, yr hyfforddiant y mae ei angen ar diwtoriaid, yr adnoddau y gellid eu datblygu, y gweithgareddau allgyrsiol y gellid eu cynnal, yn ogystal ag ymchwil pellach a allai lywio pedagogeg y sector.

Item Type: Article
Date Type: Publication
Status: Published
Schools: Welsh
Language other than English: Welsh
Publisher: Gwerddon
ISSN: 1741-4261
Date of First Compliant Deposit: 13 April 2018
Date of Acceptance: 30 January 2018
Last Modified: 05 May 2023 09:17
URI: https://orca.cardiff.ac.uk/id/eprint/110672

Actions (repository staff only)

Edit Item Edit Item

Downloads

Downloads per month over past year

View more statistics