Rees, Iwan Wyn  ORCID: https://orcid.org/0000-0001-5859-3839 and Morris, Jonathan  ORCID: https://orcid.org/0000-0003-3463-5277
      2018.
      
      Astudiaeth o ganfyddiadau tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion o anawsterau ynganu ymhlith dysgwyr yr iaith.
      Gwerddon
      27
      
      , pp. 39-66.
      
      
    
  
    
    
       
    
  
  
         | 
      
Preview  | 
          
            
PDF
 - Published Version
 Download (504kB) | Preview  | 
        
Abstract
Cyflwyna’r erthygl hon ddadansoddiad manwl o safbwyntiau tiwtoriaid profiadol ar ynganu dysgwyr Cymraeg i Oedolion (CiO) a’r sylw a roddir i ddysgu ynganu yn y sector. Casglwyd y data a gyflwynir yma drwy ddosbarthu holiadur ar-lein i diwtoriaid profiadol o wahanol rannau o Gymru, a thrwy gynnal grwpiau ffocws â sampl o’r tiwtoriaid hyn mewn dau leoliad penodol yng Nghymru. Nodau’r ymchwil yw sefydlu sut y mae tiwtoriaid yn canfod anawsterau ynganu dysgwyr, a darganfod i ba raddau y maent wedi eu hyfforddi’n ddigonol ar gyfer cynorthwyo dysgwyr o safbwynt yr agwedd heriol hon ar ddysgu iaith. Archwilir hefyd i ba raddau y mae gwahanol elfennau ynganu (e.e. cynhyrchu seiniau penodol a goslefu) yn effeithio ar allu dysgwyr i gyfathrebu’n effeithiol y tu allan i’r ystafell ddosbarth. Cyflwynir ar ddiwedd yr erthygl hon gyfres o argymhellion o ran y modd y gall y sector CiO wella ei darpariaeth o safbwynt ynganu. Mae’r argymhellion hyn yn ymwneud â darpariaeth y cyrsiau, yr hyfforddiant y mae ei angen ar diwtoriaid, yr adnoddau y gellid eu datblygu, y gweithgareddau allgyrsiol y gellid eu cynnal, yn ogystal ag ymchwil pellach a allai lywio pedagogeg y sector.
| Item Type: | Article | 
|---|---|
| Date Type: | Publication | 
| Status: | Published | 
| Schools: | Schools > Welsh | 
| Language other than English: | Welsh | 
| Publisher: | Gwerddon | 
| ISSN: | 1741-4261 | 
| Date of First Compliant Deposit: | 13 April 2018 | 
| Date of Acceptance: | 30 January 2018 | 
| Last Modified: | 05 May 2023 09:17 | 
| URI: | https://orca.cardiff.ac.uk/id/eprint/110672 | 
Actions (repository staff only)
![]()  | 
              Edit Item | 

							


    
  
  
        
 Download Statistics
 Download Statistics