Loeffler, Marion ORCID: https://orcid.org/0000-0002-9076-5618 2024. Ethé, Carl Hermann (1844-1917), ysgolhaig. [Online]. Dictionary of Welsh Biography. Available at: https://biography.wales/article/s15-ETHE-HER-1844#... |
Abstract
Ganwyd Hermann Ethé ar 18 Chwefror 1844 yn Stralsund, gogledd yr Almaen, yn fab i Franz Ethé a'i wraig Mathilde (g. Lappe). O 1863, astudiodd Ffiloleg yn Leipzig, gan ennill ei ddoethuriaeth mewn 'Ieithoedd Dwyreiniol' yn 1865. Fe'i cyflogwyd gan Brifysgol Munich fel Darlithydd mewn Ieithoedd Dwyreiniol o 1865 hyd 1871. Medrai nifer sylweddol o ieithoedd Asia Ganol, gan ddysgu Hebraeg, Arabeg, Perseg, Syrieg neu Ethiopeg, a Sansgrit, yn ogystal ag ieithoedd modern, megis Almaeneg, Ffrangeg ac Eidaleg. Yn ôl ei fywgraffwyr, aeth i'r Deyrnas Unedig i ddianc rhag yr erledigaeth ar radicaliaid gwleidyddol yn dilyn uno'r Almaen dan Bismarck yn 1871. Wedi derbyn MA Anrhydeddus gan Brifysgol Rhydychen, symudodd Ethé i Lyfrgell y Bodleian yn 1871, lle bu'n llunio catalogau o'i llawysgrifau Perseg, Twrceg, Hindwstani a Pashto, yn ogystal â'r rhai Arabeg. Yn 1872 fe'i comisiynwyd i gatalogio'r llawysgrifau Perseg yn llyfrgell Swyddfa'r India, a chyhoeddodd y gyfrol gyntaf yn 1903. Mae ffrwyth ei ysgolheictod i'w weld o hyd yn yr Encylopædia Iranica. Yn 1875, penodwyd Ethé yn Athro Almaeneg ac Ieithoedd Dwyreiniol yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, lle bu hefyd yn Athro Iaith a Llenyddiaeth Ffrangeg tan 1894. Priododd Harriet Dora Phillips, dinesydd Prydeinig, yn 1899. Yn Chwefror 1914 anrhydeddwyd ei ben-blwydd yn ddeg a thrigain ag erthygl yn y Times.
Item Type: | Website Content |
---|---|
Date Type: | Published Online |
Status: | Published |
Schools: | History, Archaeology and Religion |
Language other than English: | Welsh |
Publisher: | Dictionary of Welsh Biography |
Related URLs: | |
Last Modified: | 31 Jul 2024 12:59 |
URI: | https://orca.cardiff.ac.uk/id/eprint/170992 |
Actions (repository staff only)
Edit Item |