Davies, Andrew James, Morgan, Alexandra ORCID: https://orcid.org/0000-0002-0689-9470, Connolly, Mark ORCID: https://orcid.org/0000-0003-4278-1960 and Milton, Emmajane ORCID: https://orcid.org/0000-0001-8065-9857
2024.
Addysg yng Nghymru ers datganoli: Tair Ton Polisi, a'r her fawr o ran gweithredu.
Wales Journal of Education
26
(2)
, pp. 24-40.
10.16922/wje.26.2.3cym
|
|
PDF
- Published Version
Available under License Creative Commons Attribution Non-commercial No Derivatives. Download (237kB) |
Abstract
Ar achlysur 25 mlynedd ers dechrau datganoli i Gymru, mae’r erthygl hon yn archwilio’r tair ton wahanol o bolisi ac ymarfer addysg yng Nghymru sydd wedi’u nodi a’u harchwilio gan awduron yr erthygl hon a sylwebyddion eraill fel eu bod wedi digwydd ers 1999 (Egan, 2017; Connolly, et al., 2018; Titley et al., 2020; Evans, 2022; Milton et al., 2023). Mae’n dechrau drwy olrhain dyddiau cynnar y setliad datganoli, a’r dull arbrofol o ymdrin â pholisi newydd a dreialwyd rhwng 1999 a 2010 (Moon, 2012). Yna mae’n edrych ar y tro polisi tuag at fwy o atebolrwydd a her a welwyd yn 2010 yn dilyn canlyniadau siomedig PISA 2009 (Davies et al., 2018), a ffurfiodd yr Ail Don. Yna mae’n archwilio’n feirniadol y Drydedd Don polisi o tua 2015, a nodweddir gan daith ddiwygio uchelgeisiol Cymru (OECD, 2017) a ymgorfforir yn y genhadaeth genedlaethol ar gyfer addysg (Llywodraeth Cymru, 2017a). Mae’n cynnig bod Cymru, ers tua 2021, wedi dechrau ar gyfnod unigryw a heriol o fewn y Drydedd Don drawsnewidiol hon o bolisi. Rydym yn dadlau bod y sefyllfa bresennol yn cael ei nodweddu gan ansicrwydd a lefelau digynsail o gynnwrf yn y system yn sgil cyrhaeddiad, cwmpas a goblygiadau ymarferol cymhleth gweithredu’r diwygiadau ar ôl 2015. Er mwyn gwireddu’r agenda uchelgeisiol i ddiwygio’r cwricwlwm y mae wedi’i gosod i’w hun, mae’r erthygl hon yn dod i’r casgliad bod angen i Gymru ofyn cwestiynau treiddgar am weithredu canllawiau cwricwlaidd, a’u heglurder; ail-werthuso ei dull o ymdrin â sybsidiaredd; a gwrando ar y rhybuddion gan wledydd eraill lle mae diwygiadau tebyg i’r cwricwlwm wedi effeithio’n negyddol ar ddeilliannau dysgwyr ac wedi gwaethygu anghydraddoldebau. Heb hyn, efallai y bydd goblygiadau o ran gwireddu’r Cwricwlwm i Gymru, cadw athrawon a phrofiadau dysgwyr yng Nghymru.
| Item Type: | Article |
|---|---|
| Date Type: | Publication |
| Status: | Published |
| Schools: | Schools > Social Sciences (Includes Criminology and Education) |
| Publisher: | University of Wales Press |
| ISSN: | 2059-3708 |
| Date of First Compliant Deposit: | 7 February 2025 |
| Last Modified: | 07 Feb 2025 13:00 |
| URI: | https://orca.cardiff.ac.uk/id/eprint/175956 |
Actions (repository staff only)
![]() |
Edit Item |





Dimensions
Dimensions